Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyfleoedd cyflogaeth a gwybodaeth ar gael
  		Published: 03/04/2017
Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod 
芒 chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn Neuadd 
Ddinesig Cei Connah dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Ebrill. 
Ddydd Mercher 26 Ebrill, cynhelir Diwrnod Gwybodaeth a Sgiliau gyda chyngor 
ymarferol ar sut i ddod o hyd i swydd, yn ogystal 芒 gweithdai llwyddo mewn 
cyfweliad, ysgrifennu CV a llenwi ceisiadau am swyddi.
Ddydd Iau 27 Ebrill, cynhelir Ffair Swyddi a bydd busnesau sydd 芒 swyddi lleol 
a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol i drafod y cyfleoedd ar gael. Bydd 
partneriaethau addysg bellach ac addysg uwch hefyd wrth law i drafod yr 
hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned.   
Bydd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn bresennol i 
hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael 
i鈥檙 rheiny sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain.   
Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth gyrfaoedd wedi ei deilwra ar gyfer pobl 
ifanc 16-24 oed ynghyd 芒 mentoriaid y rhaglen Esgyn sy鈥檔 darparu cymorth un i 
un ar gyfer unigolion o fewn ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn 
ddi-waith ers chwe mis neu fwy ac sy鈥檔 byw mewn aelwyd ddi-waith.
Bydd Ymgynghorydd Rhieni Cymunedau yn Gyntaf  hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth 
a chyngor i rieni sydd eisiau dychwelyd i鈥檙 gweithle, gan roi cyngor ar 
fudd-daliadau ac edrych ar swyddi gwirfoddol. 
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Nia yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01244 
846090 neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647.