Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Seremoni OBE yn y Palas
  		Published: 21/03/2017
Mae pennaeth ysgol uwchradd Sir y Fflint, a gafodd ei dyfarnu gyda OBE yn 
rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd, wedi bod i Balas Buckingham i gasglu ei 
gwobr.
 
Cafodd Mrs Rosemary Jones, pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, ei chydnabod am ei 
chyfraniad i addysg. Mae wedi arwain t卯m yr ysgol o athrawon a staff cefnogi i 
ddatblygu Cymuned Ddysgu Eithriadol, lle mae cyflawniad a lles yn 
flaenoriaethau. Barnwyd safonau yn yr ysgol i fod yn Ardderchog gan Estyn yn 
2015 ac yn 2016 enillodd yr ysgol Wobr Ansawdd Cymru.
Meddai Rosemary Jones:
鈥淲rth i鈥檙 Frenhines gyflwyno鈥檙 fedal, fe holodd am ein hysgol.  Gwrandawodd yn 
astud wrth i mi s么n wrthi am ein staff a鈥檔 disgyblion rhagorol.  Fe wnes i 
hefyd siarad am gymuned gefnogol Bwcle a鈥檌 hymrwymiad i gefnogi addysg pobl 
ifanc.
Roedd yn brofiad gwych cael cyfarfod y Frenhines, yn ei 65ain blwyddyn o 
deyrnasu, ac i gael y gydnabyddiaeth hon oherwydd cyflawniadau T卯m Elfed鈥.
Mae gan Rosemary ugain mlynedd o brofiad arwain ysgol. Dechreuodd ei gyrfa 
addysgu yn y 1970au yn Llundain. Ar 么l symud i Ddyffryn Clwyd yn 1984, mae wedi 
gweithio yn Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd ac yn ystod y deng mlynedd 
diwethaf fel pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed.