Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyngor i gynnal Taith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau鈥檙 Gymanwlad yn Theatr Clwyd
  		Published: 21/03/2017
Bydd Baton Gemau鈥檙 Gymanwlad 2018 yn ymweld 芒鈥檙 sir ym mis Medi fel rhan o鈥檌 
daith 388 diwrnod i Gemau鈥檙 Traeth Aur yn Queensland, Awstralia 
Bydd Baton Gemau鈥檙 Gymanwlad yn dod i Sir y Fflint ddydd Iau 7 Medi 2017, am 
ddigwyddiad yn Theatr Clwyd, fel rhan o raglen tridiau yng Nghymru.  Yn ystod y 
daith 388 diwrnod, bydd y baton, sy鈥檔 cael ei gario gan griw cyfnewid o redwyr, 
yn ymweld 芒 phob rhan o鈥檙 Gymanwlad cyn cyrraedd ei gyrchfan derfynol, seremoni 
agoriadol Gemau鈥檙 Gymanwlad 2018 yn Ninas y Traeth Aur, 4 Ebrill 2018.
Theatr Clwyd fydd yr unig theatr sy鈥檔 cael ymweliad yn ystod y rhan Gymreig o鈥檌 
daith, syn cynnwys cyrchfannau nodedig yn amrywio or Bathdy Brenhinol yn 
Llantrisant i Zip World ym Mlaenau Ffestiniog. Bydd y Baton yn cyrraedd y 
theatr yn hwyr yn y prynhawn, i gael croeso gan fyfyrwyr ysgol leol, preswylwyr 
Sir y Fflint ac arweinwyr dinesig.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
鈥淩ydym yn falch o gael theatr mor eiconig yn ein Sir ac mae cael cydnabyddiaeth 
fel cynhaliwr Baton y Frenhines wir yn anrhydedd, ac rydym yn edrych ymlaen at 
y dathliadau ym mis Medi.
Gellir ystyried Taith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau鈥檙 Gymanwlad yn 
ddatblygiad Cymreig: dechreuodd yng Ngemaur Gymanwlad yng Nghaerdydd ym 1958, 
pan roedd y rhedwyr yn ei gario drwy bob un o dair sir ar ddeg Cymru. Ers Gemau 
Melbourne yn 2006, mae wedi ymweld 芒 phob tiriogaeth yn y Gymanwlad fel 
dathliad gweledol o undeb ac amrywiaeth ei genhedloedd. Maer Baton yn cynnwys 
neges gan Ei Mawrhydi鈥檙 Frenhines i athletwyr y Gemau, a ddarllenir yn y 
Seremoni Agoriadol.
Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, 鈥淔el un o鈥檙 
theatrau 芒鈥檙 nifer uchaf o gynyrchiadau yn y wlad, mae Theatr Clwyd yn falch o 
groesawu Baton Gemau鈥檙 Gymanwlad.  Mae鈥檔 cynrychioli amrywiaeth y cenhedloedd 
cenedlaethol a鈥檜 traddodiadau celfyddydol, yr ydym yn cysylltu 芒 nhw drwy ein 
hamrediad eang o berfformiadau a sgriniau, a鈥檙 cyfoeth amrywiol o straeon maent 
yn eu hadrodd.鈥
Mae鈥檙 Theatr yn cael ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor 
Celfyddydau Cymru, ar Theatr ywr prif gwmni cynhyrchu yng Nghymru.