Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyngor yn ymuno yn Awr Ddaear WWF 2017
  		Published: 16/03/2017
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Awr Ddaear unwaith eto – dathliad blynyddol 
a byd-eang o’r blaned. 
Maer Awr Ddaear yn 10 oed yn 2017, a bydd y Cyngor yn dangos ei ymrwymiad i 
fynd ir afael â newid hinsawdd drwy ymuno â thirnodau ledled y byd megis y 
Senedd ym Mae Caerdydd, Pont Harbwr Sydney a Times Square yn Efrog Newydd. 
Am 8.30pm nos Sadwrn 25 Mawrth 2017, bydd Sir y Fflint yn cyfrannu at yr Awr 
Ddaear drwy annog ei weithlu i ddiffodd eu holl offer trydanol dianghenraid.  
Fe fydd y Cyngor hefyd yn annog preswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol lleol 
i ddiffodd eu hoffer ar gyfer #AwrDdaearCymru.  
Bob blwyddyn, mae tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr Awr 
Ddaear, a thrwy gymryd rhan, maent yn dangos eu bod eisiau gweld gweithredoedd 
er mwyn mynd ir afael â newid hinsawdd rwan. 
Os ydych chi awydd trefnu digwyddiad Awr Ddaear yn Sir y Fflint, cysylltwch â 
Leanna Jones, Swyddog Cadwraeth Ynni yn y Cartref drwy ffonio 01352 703766. 
I ddysgu mwy am arbed ynni yn eich cartref, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf 
am gefnogaeth am insiwleiddio, gwresogi ac ynni adnewyddadwy, cysylltwch â 
Chanolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru drwy ffonio 0800 954 0658 neu 01352 876 
040.