Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Drysau Agored yn Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru
Published: 08/08/2022
DIWRNOD AGORED YN ARCHIFAU GOGLEDD-DDWYRAIN CYMRU, PENARL脗G
Bydd Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru ym Mhenarl芒g yn cynnal Diwrnod Agored ddydd Sadwrn, 24 Medi 2022 (rhwng 10am a 2pm).
Yn ystod y Diwrnod Agored bydd yno ddarlithoedd ac arddangosfeydd ynglyn 芒 hanes Courtauld, y cwmni oedd 芒 thair o ffatr茂oedd yn y Fflint: Aber Works, Deeside Mills a Castle Works, a dwy o ganolfannau cynhyrchu rayon ym Maes-glas. Yn ei anterth roedd cwmni Courtauld yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl yn Sir y Fflint.
Bydd yr arddangosfeydd yn cynnwys gwrthrychau a pheiriannau o鈥檙 safleoedd yn Sir y Fflint, drwy haelioni Amgueddfeydd Sir y Fflint; bydd yno hefyd arddangosfa ynglyn 芒鈥檙 menywod a fu鈥檔 gweithio yn ffatr茂oedd Courtauld, a gr毛wyd gan Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Glyndwr.
Ymhlith y menywod hynny oedd y Cynghorydd Vicky Perfect, a ddechreuodd weithio i Courtauld pan oedd hi鈥檔 bymtheg oed, a bydd hi鈥檔 rhannu ei phrofiadau o weithio yno yn y 1960au; bydd darlith gan Sophie Fish o Amgueddfeydd Sir y Fflint (AURA) ynglyn 芒 hanes cyffredinol y safleoedd, a鈥檙 prosiect sy鈥檔 mynd rhagddo mewn partneriaeth rhwng AURA a Sefydliad Courtauld yn Llundain.
Bydd cyfle hefyd i weld ffilm a gynhyrchwyd gan Archif Menywod Cymru o鈥檙 enw 鈥楲leisiau o Lawr y Ffatri鈥� sy鈥檔 bwrw golwg ar weithwyr mewn ffatr茂oedd yng Nghymru, gan gynnwys Courtauld yn Sir y Fflint, a chyfle i gael golwg gyntaf ar ddrama gerdd newydd ar yr un thema, 鈥楾ic Toc鈥�, a fydd yn mynd ar daith o amgylch gogledd Cymru yn 2023.
Bydd yno deithiau tywys y tu 么l i鈥檙 llenni yn hen adeilad hanesyddol yr Hen Reithordy ym Mhenarl芒g, i weld yr ystafelloedd diogel lle rheolir yr amgylchedd i gadw鈥檙 archifau unigryw ac amhrisiadwy am hanes Sir y Fflint sydd Byddwch hefyd yn ymweld 芒鈥檙 Stiwdio Cadwedigaeth, lle bydd y Ceidwad yn egluro鈥檙 technegau a ddefnyddir i ddiogelu鈥檙 eitemau rhyfeddol hyn ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.
Mae鈥檔 rhaid cadw lle ymlaen llaw am y Daith Dywys a鈥檙 Darlithoedd 鈥� cysylltwch ag Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru i gael y manylion drwy ffonio 01244 532364 neu e-bostio archives@newa.wales.听
Y rhaglen arfaethedig:
9.45am 鈥� Agor y drysau
10.00am 鈥� Taith y tu 么l i鈥檙 llenni i weld yr Ystafelloedd Diogel a鈥檙 Stiwdio Gadwedigaeth
11.15am - Ffilm: 鈥楲leisiau o Lawr y Ffatri鈥�, profiadau menywod yn gweithio mewn ffatr茂oedd yng Nghymru, gan gynnwys safleoedd Courtauld yn Sir y Fflint.
11.30am 鈥� Darlith gan y Cynghorydd Vicky Perfect: 鈥楩y Mhrofiadau o weithio i Courtauld yn y 1960au鈥�.
12.00pm 鈥� Darlith gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint: 鈥楥ysylltu Courtauld鈥�: Hanes byr o gwmni Courtaulds yn Sir y Fflint a chefndir i鈥檙 prosiect partneriaeth Lleisiau Courtald.
12.30pm 鈥� Lluniaeth a chyfle i weld yr arddangosfeydd - Arddangosfeydd: Gwrthrychau Courtauld gan Amgueddfeydd AURA (Sir y Fflint); Menywod yn gweithio yn Courtauld, 1931-1958, gan Liz Newman (Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru) a Suzanne Jones (Prifysgol Glyndwr)听
O 12.45pm ymlaen 鈥� ffilm am sioe gerdd ynglyn 芒 gweithwyr ffatri yng Nghymru, 鈥楾ic Toc鈥�, gan gynnwys cyfweliadau 芒 gweithwyr a detholiadau o鈥檙 perfformiad, gyda rhagarweiniad gan Catrin Edwards, Swyddog Prosiect.听听
1.00pm 鈥� Taith y tu 么l i鈥檙 llenni i weld yr Ystafelloedd Diogel a鈥檙 Stiwdio Gadwedigaeth
2.00pm 鈥� Cloi

听
Gweithiwr yn Courtaulds, 1970au
听
听
听
听
听
听
听
听