天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar y Ffordd yng Nghylchfan yr A548 yn Brokenbank (Weighbridge Road), Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy

Published: 01/08/2022

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi cael cyllid i roi wyneb newydd ar y ffordd yng Nghylchfan yr A548 yn Brokenbank (Weighbridge Road), Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 8 Awst ac yn para tua wythnos (gan ddibynnu ar y tywydd).

Er mwyn gallu gwneud y gwaith (dros nos) a sicrhau bod y gweithlu a defnyddwyr y briffordd yn ddiogel, bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a 6am a鈥檙 traffig yn mynd ar ffordd arall.听

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr, Tarmac Trading Cyf., yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu drafferth y gallai鈥檙 gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn ei achosi.

听