Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Meicro-Ofal - 鈥測n gwneud gwahaniaeth arwyddocaol鈥
Published: 27/07/2022
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae meicro-ofal Sir y Fflint wedi bod yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i drigolion - ac yn parhau i wneud hynny.听
Mae meicro-ofalwyr yn fusnesau bach, sy鈥檔 amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy鈥檔 cyflogi pump o bobl, sy鈥檔 cynnig gwasanaethau math gofal, cefnogaeth neu les hyblyg wedi鈥檜 personoli, i bobl ddiamddiffyn, wedi鈥檜 teilwra i anghenion yr unigolyn.
Mae鈥檙 rhaglen meicro-ofal a sefydlwyd gan y Cyngor, ac a ariannwyd ar y cyd 芒 Chadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi a mentora unigolion i ddatblygu eu busnes neu syniad gofal cymdeithasol a darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid ac adnoddau eraill sydd ar gael yn ogystal 芒鈥檜 harwain trwy ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.听听
Mae t卯m meicro-ofal Sir y Fflint wedi cefnogi 25 o feicro-ofalwyr ers 2020 ac yn gweithio gyda 10 arall sy鈥檔 ystyried y syniad - oll yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ledled Sir y Fflint canolog a gwledig.
Mae鈥檙 gwasanaeth a ddarperir gan feicro-ofalwyr wedi galluogi pobl i gael cefnogaeth ychwanegol i wneud pethau maent eisiau eu gwneud, aros yn eu cartrefi, a darparu seibiant ar gyfer teulu a ffrindiau.
Mae鈥檙 llwyddiant i鈥檞 weld mewn adborth diweddar gan ffrind i rywun sy鈥檔 cael cefnogaeth gan feicro-ofalwr.听 Dywedodd:
鈥淩wyf eisiau gadael i chi wybod am adborth cadarnhaol am eich gwasanaeth. Rwyf wedi bod gyda ffrind sydd ar restr aros am ofalwr ond yn y cyfamser awgrymwyd meicro-ofalwr. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant enfawr ac wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i鈥檞 bywyd.鈥
Mae鈥檙 adborth cadarnhaol hwn yn enghraifft o鈥檙 sylwadau cadarnhaol niferus gan ddefnyddwyr gwasanaeth a鈥檜 teuluoedd.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
鈥淐yflwynwyd meicro-ofal fel ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac i fodloni鈥檙 galw cynyddol am ofal.听 Cyflwynodd Sir y Fflint y dull arloesol hwn i gynyddu nifer y gofalwyr oedd yn gallu rhoi gofal i鈥檞 drigolion.
鈥淔el awdurdod lleol, mae ein darparwyr gofal, asiantaethau gofal, gwasanaethau preswyl neu gynorthwywyr personol yn gwneud gwaith gwych ac mae darparwyr meicro-ofal wedi gwella鈥檙 ddarpariaeth hon ymhellach.鈥澨 听听
Mae t卯m datblygu meicro-ofal Sir y Fflint yn awyddus i annog a chefnogi pobl ar draws y sir i ddod yn feicro-ofalwyr. Gall unrhyw un ddod yn feicro-ofalwr, os oes gennych brofiad o ddarparu gofal ai peidio, felly os oes gennych ddiddordeb mewn darparu gwasanaethau gofal, eisoes yn cefnogi pobl yn eu cymunedau lleol ond eisiau gwneud mwy neu eisiau gwneud rhywbeth sy鈥檔 cefnogi eraill ac yn gwneud gwahaniaeth, cysylltwch 芒 micro-care@flintshire.gov.uk i siarad ag aelod o鈥檙 t卯m ac i wybod mwy.听
听