天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud am gynigion i wella Stryd Fawr Shotton

Published: 19/07/2022

Shotton1.pngMae Cyngor Sir y Fflint yn ceisio eich barn am gynigion i weithredu isadeiledd Teithio Llesol (cerdded a beicio), gwelliannau i鈥檙 amgylchedd naturiol a mesurau i wella llif y traffig ar y B5129 Stryd Fawr Shotton a Brook Road i Shotton Lane.

Mae Stryd Fawr Shotton yn goridor teithio pwysig, sy鈥檔 darparu cysylltiadau strategol allweddol i ardaloedd cyflogaeth, addysg a gwasanaethau.听 Fodd bynnag, i鈥檙 rhai sy鈥檔 byw, gweithio neu鈥檔 teithio鈥檔 rheolaidd trwy Shotton, ac sy鈥檔 cael mynediad i amwynderau lleol mewn car, ar feic neu wrth gerdded, mae tagfeydd traffig ac achosion o wrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr ar y llwybrau troed wedi effeithio ar hyn yn y gorffennol.听听

Er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion hanesyddol ar hyd y coridor, mae cynigion wedi鈥檜 datblygu ar gyfer cyflwyno lonydd beicio hybrid, gwelliannau i isadeiledd gwyrdd sy鈥檔 cynnwys pyllau coed, gerddi glaw a safleoedd bws gwyrdd, yn ogystal 芒 mesurau sy鈥檔 ceisio gwella llif y traffig fel y lonydd troi i鈥檙 dde dynodedig a newidiadau i gyfyngiadau Dim Mynediad/Traffig Unffordd presennol.

Rhagwelir y bydd y cynigion ar gyfer gwelliannau yn gwella ansawdd bywyd preswylwyr yn fawr yn ogystal 芒 chynnig dewisiadau teithio gwyrdd amgen ar gyfer teithiau lleol gyda manteision amlwg ar gyfer iechyd y cyhoedd a鈥檙 amgylchedd.

Pe bai鈥檙 cynllun yn datblygu i鈥檙 cam adeiladu, byddai cyfnod anochel o amhariad, a rhagwelir y byddai鈥檙 cyfnod hwn yn para am gyfnod o 11 mis pan fyddai angen defnyddio goleuadau traffig dros dro 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.听

O ddydd Iau 21 Gorffennaf tan 14 Awst 2022, pan fydd y dudalen ymgynghoriad yn mynd yn fyw, bydd mwy o wybodaeth ar gael trwy fynd i .