Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau yn Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy
Published: 15/07/2022
Cyflawnwyd carreg filltir yn Shotton yn ddiweddar wrth i ddisgyblion o Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy ddathlu gwasanaeth ffarwelio 芒 Blwyddyn 6 cyntaf yr ysgol.听
Roedd staff, llywodraethwyr, aelodau teulu, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts a鈥檙 Prif Swyddog ar gyfer Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn.听
Fel rhan o鈥檜 rhaglen uchelgeisiol i ymestyn addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint a chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae鈥檙 Cyngor wedi sefydlu Glannau Dyfrdwy gyda chefnogaeth Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Croes Atti, y Fflint sy鈥檔 rheoli鈥檙 ddau safle fel un ysgol.听听
Roedd arolygon rhieni yn ardal Glannau Dyfrdwy wedi nodi y byddai rhieni鈥檔 dewis addysg cyfrwng Cymraeg pe bai darpariaeth ar gael yn lleol, felly penderfynodd y Cyngor fanteisio ar adeilad ysgol gwag i alluogi hyn ac agorodd Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy ei drysau i ddisgyblion meithrin yn 2014.听听
Mae Mudiad Meithrin hefyd wedi sefydlu grwp cyn ysgol cyfrwng Cymraeg a gofal plant estynedig ar safle鈥檙 ysgol.听 听Mae鈥檙 grwp cyntaf o ddisgyblion meithrin bellach wedi cyrraedd diwedd eu haddysg gynradd ac yn symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Sir y Fflint, Ysgol Maes Garmon, ym mis Medi.听听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Roberts, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
鈥淢ae hon yn garreg filltir allweddol ac roeddwn yn hynod falch o fedru mynychu鈥檙 achlysur arbennig hwn a oedd yn gyfle i ddisgyblion fyfyrio ar eu cyfnod yn yr ysgol ac edrych yn 么l ar luniau dros y blynyddoedd yn ogystal 芒 pherfformio鈥檙 caneuon a鈥檙 dram芒u yr oeddent wedi bod yn brysur yn eu paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn Ninbych dros wyliau hanner tymor mis Mai.听 听
鈥淢ae Sir y Fflint wedi ymrwymo i鈥檙 Gymraeg a thrwy ein Cynllun Cymraeg mewn Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oedran i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi鈥檙 hyder iddynt ddefnyddio鈥檙 iaith yn eu bywyd bob dydd.鈥
Talodd y Pennaeth, Mr Gwyn Jones, deyrnged iddynt am eu cyflawniadau a鈥檜 cyfraniad at fywyd yr ysgol.听 Talodd deyrnged hefyd i鈥檙 rhieni am ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i鈥檞 plant er nad yw鈥檙 mwyafrif ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.听 听Myfyriodd ar ba mor arbennig yw鈥檙 ffaith bod y plant hyn bellach yn ddwyieithog ac y byddant yn mwynhau鈥檙 buddion o fedru dysgu a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg am weddill eu bywydau.听
Cyflwynodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, dystysgrif arbennig ar ran y Cyngor i鈥檙 holl ddisgyblion blwyddyn 6 i gydnabod mai nhw yw鈥檙 grwp cyntaf o鈥檙 ysgol i symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y cam nesaf yn eu siwrnai addysgol gyffrous.听听
Mae Ysgol Croes Atti鈥檔 parhau i fynd o nerth i nerth yn y Fflint a Shotton ac yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy鈥檙 Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a ffrydiau cyllido Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.听听
Bydd hyn yn darparu adeilad ysgol newydd sbon gan ddisodli鈥檙 ysgol bresennol ar Ffordd Caer yn y Fflint a gwaith ailwampio sylweddol i鈥檙 safle Glannau Dyfrdwy yn Shotton er mwyn gwella鈥檙 amgylchedd dysgu dan do ac awyr agored.听 Bydd y ddau safle hefyd yn elwa o gyfleusterau gofal plant ac addysg gynnar newydd sbon i gefnogi rhagor o deuluoedd i ddewis addysg gynradd a chyn ysgol cyfrwng Cymraeg i鈥檞 plant.听
听