Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Arolwg Cyflwr Stoc y Sector Preifat 
  		Published: 10/03/2017
Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint, pan 
fyddant yn cyfarfod yr wythnos nesaf, ynglyn ag arolwg cyflwr stoc y sector 
preifat a gynhaliwyd yn 2016 gan Opinion Research Services ar ran y Cyngor. 
Samplodd yr arolwg 1,223 o anheddau sector preifat.  Mae canfyddiadau allweddol 
yr arolwg wediu crynhoi isod. 
Maer sector rhentu preifat wedi tyfun sylweddol yn Sir y Fflint (20% o 
anheddau o gymharu â 14% yn 2011) er maen parhau i fod yn llai na sawl ardal 
arall (24% Arolwg Tai Lloegr).  
Mae gan y sector rai meysydd o bryder: 
Mae bron i 40% or tenantiaid wedi byw yn y cyfeiriad am lai na 2 flynedd - 
gydag effaith ganlyniadol ar sefydlogrwydd aelwydydd a chydlyniant cymunedol; 
Mae tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr gwael – 25.4% o gymharu 
â 18.1% ar gyfer Sir y Fflint yn ei chyfanrwydd; 
Mae tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod ag effeithlonrwydd ynni llai o 
gymharu âr Sir gyfan, er bod effeithlonrwydd ynni ar gyfer anheddau ar draws 
Sir y Fflint wedi gwella. 
Er gwaethaf hyn, bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr anheddau anaddas yn Sir y 
Fflint ers yr arolwg diwethaf yn 2010. Mae nifer yr anheddau gyda pheryglon 
categori 1 wedi gostwng o 23.5% i 8.4%.  
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
Maer Cyngor yn falch o weld bod lefel y tai anaddas wedi gostwng yn sylweddol 
ers yr arolwg diwethaf.   Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon ac maer Cyngor 
yn parhau i weithion galed i ganfod cyfleoedd i ddenu cyllid allanol i fynd 
ir afael ag effeithlonrwydd ynni a gwelliannau tai ar gyfer yr ardaloedd mwyaf 
difreintiedig yn y Sir.