天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fflecsi Treffynnon yn cyrraedd mwy o bentrefi

Published: 26/05/2022

Fflecsi 530x265.jpgYn sgil llwyddiant a phoblogrwydd gwasanaeth bws Fflecsi Treffynnon, mae鈥檙 gwasanaeth yn ehangu i gynnwys pentrefi Penyffordd, Picton, Gwespyr, Gronant a Gwaenysgor.

Mae Fflecsi yn cynnig gwasanaeth bws llawer mwy cyfleus ar gyfer Treffynnon a鈥檙 ardaloedd amgylchynol.听 Byddwch yn talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall 鈥 ond y gwahaniaeth mwyaf yw eich bod yn archebu鈥檙 bws trwy鈥檙 ap neu drwy鈥檙 ganolfan alwadau.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Cludiant Rhanbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes:听

鈥淩ydym yn falch iawn o weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i ehangu ar y gwasanaeth fflecsi yma yng ngorllewin Sir y Fflint. Mae鈥檙 gwasanaeth wedi bod yn boblogaidd iawn ers ei lansio ym mis Mehefin ac mae鈥檔 galluogi preswylwyr i fynd allan, gyda chysylltiadau uniongyrchol 芒 gorsaf fysiau Treffynnon, siopau lleol, cyfleusterau hamdden ac apwyntiadau meddygol mewn ffordd fwy hwylus.鈥澨

Dywedodd Pennaeth Datblygu Rhwydwaith a Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, Andrew Sherrington:

鈥淢ae Fflecsi yn darparu gwasanaeth sydd wir ei angen ar bobl ar draws Cymru, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae cludiant cyhoeddus wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu mynediad i wasanaethau cyhoeddus a mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi cludiant mewn ardaloedd gwledig.鈥

Mae鈥檙 bysiau Fflecsi yn gweithredu mewn ardal wasanaeth benodol yn ac o amgylch Treffynnon ac mae鈥檔 galluogi trigolion heb wasanaethau cludiant cyhoeddus i gysylltu gyda gwasanaethau bws masnachol yn Nhreffynnon a Chaerwys.听 Maent hefyd yn cynnig cludiant i gyfleusterau hamdden, siopau masnach, cyflogaeth, clybiau ar 么l ysgol ac apwyntiadau meddygol, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol a brofir gan rai preswylwyr gwledig.

Mae Fflecsi yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener 09:15 tan 18:00 ac ar ddyddiau Sadwrn o 9:15 tan 13:00 ac ar gael i bawb, yn union fel bws arferol. Mae鈥檙 gwasanaeth yn cynnig ffordd fwy pwrpasol o fynd o gwmpas gan eich cludo a鈥檆h gollwng mewn ardal benodol ac nid ar lwybr bws arferol.

Defnyddiwch y bws Fflecsi ar gais, bydd yn eich codi yn agos i ble rydych chi ac yn newid ei lwybr fel y gall holl deithwyr eraill sydd wedi archebu fynd i ble maent angen mynd.听听

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, a map o鈥檙 ardal sy鈥檔 cael ei wasanaethu a sut i archebu, ewch i 听