天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau Derbyniadau Ysgol ar gyfer 2018

Published: 10/03/2017

Gofynnir i Gynghorwyr gymeradwyo trefniadau derbyniadau ysgol ar gyfer 2018 yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 14 Mawrth. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror. Roedd yn ymwneud 芒 nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol. Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (96%) dewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau. Mae newidiadau arfaethedig ir niferoedd derbyn mewn sawl ysgol i adlewyrchu newidiadau yn yr adeiladau. Maer holl newidiadau wediu cymeradwyo gan y pennaeth perthnasol. Yr ysgolion hyn yw: Ysgol Cae鈥檙 Nant, Ysgol Parc y Llan, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn. Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: Maen galonogol bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint yn gallu mynychur ysgol y maent wedii dewis. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi darparu adborth yn ystod yr ymgynghoriad diweddar ac rwyn hyderus y bydd mwyafrif y dewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu.