Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Clodfori gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol
Published: 07/04/2022
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn falch o鈥檙 berthynas a ddatblygwyd 芒 darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth, sydd mor bwysig ag erioed yn sgil y pandemig.听
Y peth allweddol wrth greu partneriaethau llwyddiannus yw ein gallu i gronni ein harbenigedd a rhannu ein hadnoddau, a gweithio鈥檔 galed i gyflawni buddion gwerth chweil.听
Gweler isod rai o鈥檙 rhaglenni y mae鈥檙 Cyngor wedi鈥檜 cefnogi.
Mae ein darparwyr lleol wedi elwa鈥檔 fawr ar y cyflenwad effeithiol o Gyfarpar Diogelu Personol. Penderfynwyd ddechrau鈥檙 pandemig mai听 Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru yn bennaf a fyddai鈥檔 dosbarthu cyflenwad Llywodraeth Cymru o gyfarpar diogelu personol yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae鈥檔 werth gweld faint o gyfarpar rydym wedi鈥檌 archebu a鈥檌 ddosbarthu yn ystod y pandemig:
鈥 Tua 3.5 miliwn o ffedogau
鈥 Tua 8.2 miliwn o fenig
鈥 Tua 4.2 miliwn o fygydau
鈥 Tua 81,000 o fisorau
Drwy鈥檙 Rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr rydym yn dal i ariannu darparwyr a chydweithio 芒 hwy er mwyn datblygu arferion hyd yn oed yn well wrth ganolbwyntio ar yr unigolion.听 Rhaglen achredu yw hon sy鈥檔 rhoi鈥檙 arfau, y wybodaeth a鈥檙 sgiliau i ddarparwyr fedru cyflawni canlyniadau gwell i bobl.听
Mae Sir y Fflint hefyd yn cydnabod yr heriau y mae darparwyr gofal yn eu hwynebu gydol y sector, ac yn gweithio鈥檔 greadigol 芒 phartneriaid wrth ddarparu gofal mewn ffyrdd dyfeisgar i drigolion y sir.听 Mae hyn yn arbennig o wir wrth ofalu am y bobl sy鈥檔 defnyddio ein gwasanaethau anableddau dysgu, fel y rhai a ddarperir gan yr elusen Hft.听听
Meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol Hft, Andrew Horner:
鈥淩ydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 gwasanaethau cymdeithasol Sir y Fflint ers mwy na phum mlynedd gan gynnig cyfleoedd am wasanaethau dydd a chyflogaeth 芒 chymorth听 ledled y sir. Mae鈥檙 berthynas waith agos yn golygu ein bod wedi gallu cyflwyno datblygiadau blaengar yn y gwasanaeth gan greu cyfleoedd cyffrous a chyflawni canlyniadau syfrdanol i鈥檙 bobl yr ydym yn eu cefnogi.
鈥淕allaf ddweud yn bendant bod ein partneriaeth yn mynd o nerth i nerth. Mae Sir y Fflint yn gyngor arbennig o gefnogol sydd bob amser yn ymateb i syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio, ac mae hynny鈥檔 golygu mai pobl ag anableddau dysgu yw canolbwynt ein partneriaeth.鈥澨
Wrth ymateb i鈥檙 heriau parhaus o geisio recriwtio gweithwyr gydol y sector, cynhaliodd y Cyngor ffair swyddi ym maes gofal cymdeithasol. Rhoes hynny lwyfan i ddarparwyr lleol hyrwyddo eu swyddi gwag a rhwydweithio ag eraill.听 Bu modd inni hefyd gynnig hyfforddiant am ddim i ddarparwyr mewn Recriwtio ar sail Gwerthoedd, sy鈥檔 ddull poblogaidd ac effeithiol o benodi staff ar sail eu gwerthoedd hyn hytrach na鈥檜 cymwysterau.听
听