Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cofrestru i bleidleisio
Published: 01/04/2022
Peidiwch 芒 cholli eich hawl i bleidleisio a dweud eich dweud yn etholiadau鈥檙 Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned sy鈥檔 cael eu cynnal ddydd Iau, 5 Mai.
Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, mae angen i chi fod ar y gofrestr etholwyr a bod yn 16 oed neu hyn.
Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru eu hunain, ac mae鈥檔 broses gyflym a syml.听 I gofrestru, ewch i . Hefyd, gallwn ddarparu ffurflenni cais papur ar gais. Ewch i: 听ac argraffu ffurflen gofrestru.听 Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檙 Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702300.
Mae gennych tan 5pm ddydd Iau 14 Ebrill i gofrestru i bleidleisio.听 听 Os byddai鈥檔 well gennych bleidleisio trwy鈥檙 post ac nad ydych chi am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, mae gennych tan ddydd Mawrth 19 Ebrill i wneud cais am bleidlais trwy鈥檙 post.听
Ac mae gennych tan ddydd Mawrth 26 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy (os nad ydych chi鈥檔 gallu pleidleisio鈥檔 bersonol, gallwch ofyn i rhywun bleidleisio ar eich rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy).
听