Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint
Published: 30/03/2022
O 4 Ebrill, bydd newidiadau鈥檔 cael eu cyflwyno yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.听听
Byddwn yn cyflwyno system archebu ar gyfer deunyddiau anodd a gwastraff peryglus (asbestos a matresi) ac yn diwygio ein meini prawf trwyddedau cerbydau ar gyfer rhai mathau o gerbydau.
Rydym yn gwneud hyn i sicrhau diogelwch parhaus ein staff a鈥檔 trigolion ac i sicrhau bod digon o le yn y sgipiau ym mhob safle. Mae ein canolfannau ailgylchu i breswylwyr Sir y Fflint i gael gwared ar eu hailgylchu a gwastraff o鈥檙 cartref yn unig. Rydym wedi cyflwyno鈥檙 newidiadau i鈥檙 system drwyddedau i sicrhau nad yw busnesau yn defnyddio鈥檙 canolfannau ailgylchu yn anghyfreithlon i gael gwared 芒 gwastraff masnachol.听
Mae鈥檙 prif newidiadau wedi eu rhestru isod:
- Bydd mesurau鈥檔 cael eu cyflwyno wrth y mynedfeydd i reoli mynediad yn well i鈥檙 canolfannau ailgylchu, rheoli llif y traffig yn ddiogel ac atal cerbydau diawdurdod rhag dod i鈥檙 safleoedd.听
- Bydd bob trelar (o fewn y cyfyngiadau maint a ganiateir) angen trwydded i gael mynediad.
- Bydd trwyddedau a gyflwynir ar gyfer safle penodol yn lleol i gyfeiriad yr ymgeisydd.
- Bydd angen trefnu o flaen llawn ar gyfer matresi ac asbestos i sicrhau bod digon o le yn y cynhwysydd pan fo trigolion yn cyrraedd.
- Ni fydd trelars yn cael mynediad os ydynt yn cael eu tynnu gan gerbyd sydd angen trwydded.
- Bydd trwydded untro ar gael ar-lein trwy e-ffurflen i鈥檙 cerbydau hynny sydd wedi eu cofrestru i fusnes i gael mynediad i ddosbarthu gwastraff os yw鈥檔 glir nad yw鈥檙 gwastraff wedi ei gynhyrchu gan y cwmni neu o ganlyniad i weithgareddau鈥檙 busnes hwnnw (er enghraifft, caniat谩u i gerbyd a gofrestrwyd i blymwr i gael gwared 芒 gwastraff gardd).听 Rhaid cymeradwyo鈥檙 drwydded untro cyn yr ymweliad.听
Mae cerbydau a fydd angen gwneud cais am drwydded 12 mis wedi eu crynhoi isod:
- Pob trelar (un echel a dwy echel) a hyd y trelar wedi ei gyfyngu i 6 troedfedd (1.83 metr)听
- Pic-yps (bob model)
- Fan sy'n deillio o geir
- Fan fach
- Fan ganolig (to safonol neu isel yn is na 7 troedfedd (2.14 metr)
- Bws mini (gyda gosodiadau mewnol yn gyflawn)
- Faniau gwersylla a chartrefi modur (gyda gosodiadau mewnol yn gyflawn ac yn is na 7 troedfedd (2.14 metr)
Gellir archebu lle yn awr ar gyfer asbestos a matresi ar gyfer unrhyw eitemau sydd angen eu gwaredu o 4 Ebrill 2022.听 Rhaid archebu lle 48 awr o flaen llaw. Bydd cyfyngiadau o ran nifer o weithiau y gellir archebu lle bob blwyddyn a nifer yr eitemau y gellir eu gwaredu ar yr un pryd.听听
I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am drwydded, mae mwy o fanylion ynghylch pa gerbydau sy鈥檔 gymwys, neu mwy o wybodaeth am y system archebu ewch i: .听
Os ydych yn cael trafferth gweld y wybodaeth ar-lein, anfonwch e-bost at streetsceneadmin@flintshire.gov.uk听neu ffoniwch 01352 701234 i gael cymorth a chyngor.
听
听