天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun 20mya Bwcle

Published: 15/03/2022

Ar 么l cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru am weithredu terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle yn ddiweddar, mae Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts wedi croesawu ymateb cadarnhaol gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淓r ein bod yn cefnogi cyflwyno terfyn cyflymder 20mya gan Lywodraeth Cymru mewn ardaloedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr, rydym wedi gwrando ar bryderon preswylwyr lleol ers gweithredu terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle ar 28 Chwefror, ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried adolygu eithriadau鈥檙 meini prawf a arweiniodd at gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ar y ffyrdd prifwythiennol.听

鈥淥 ystyried faint o adborth a gawsom gan y gymuned leol, rydym yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cydnabod yr adborth yma, ac er mai 20mya yw鈥檙 terfyn awtomatig ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y terfyn cyflymder ar ffyrdd prifwythiennol drwy adolygu eithriadau鈥檙 meini prawf cyn i鈥檙 cynllun gael ei gyflwyno ymhellach ar draws Cymru yn 2023.听 Rydym ni鈥檔 gwerthfawrogi bod y mater yma鈥檔 denu mwy o sylw yn y gymuned ac rydym wedi gofyn i鈥檙 mater gael sylw fel blaenoriaeth uchel.听

鈥淏ydd y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i arwain unrhyw ymgysylltiad pellach 芒鈥檙 gymuned er mwyn sicrhau bod preswylwyr lleol yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar unrhyw newidiadau a gynigir i eithriadau鈥檙 meini prawf.

Dywedodd Prif Weithredwr Sir y Fflint, Neal Cockerton:

鈥淩wy鈥檔 ymwybodol o鈥檙 cyfraniad a wnaed gan gynghorwyr lleol ym Mwcle sydd wedi bod yn cael nifer fawr o ymholiadau.听 Felly, rwy鈥檔 croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ystyried y meini prawf eithriadau fel mater brys, fel bod modd egluro materion cysylltiedig ymhellach, a gwneud cynnydd.鈥