Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adroddiad Monitro Chwarter Tri 
  		Published: 10/03/2017
Bydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar gynnydd 
Cynllun Gwellar Cyngor 2016/17 pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 14 
Mawrth. 
Maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwelliant bob blwyddyn yn 
y Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau 
a safonau byw ledled y Sir. 
Maer adroddiad monitro a gyflwynir ddydd Mawrth yn darparu diweddariad ar 
gynnydd yn ystod chwarter tri 2016/17 o fis Hydref tan fis Rhagfyr 2016. 
Mae Sir y Fflint yn Gyngor syn perfformion dda fel y nodwyd yn yr adroddiadau 
monitro eraill ar gyfer y Cynllun Gwella ac adroddiadau Perfformiad Blynyddol y 
Cyngor yn y blynyddoedd a fu. 
Mae adroddiad monitror trydydd chwarter ar gyfer 2016/17 yn adroddiad 
cadarnhaol arall gyda 95% or camau a gytunwyd wediu hasesu fel rhai syn 
cyflawni cynnydd da a 58% yn debygol o gyflawnir canlyniad a ddymunir. Yn 
ogystal 芒 hyn, mae 72% or dangosyddion perfformiad wediu diwallu neu wedi 
rhagori ar y targed ar gyfer y chwarter. Maer risgiau yn cael eu rheolin 
llwyddiannus gydar mwyafrif wediu hasesu fel cymedrol (55%) neu 
fach/ansylweddol (34%). 
Maer uchafbwyntiau a gyflawnwyd yn y flwyddyn ariannol hon hyd yn hyn yn 
cynnwys: 
o Gwaith adeiladu 12 o dai cyngor newydd, y rhai cyntaf mewn cenhedlaeth, yn 
safle Custom House yng Nghei Connah wedii gwblhau ym mis Rhagfyr.  Dechreuodd 
y gwaith adeiladu yn safle The Walks yn y Fflint ym mis Awst 2016 o flaen y 
rhaglen a gynlluniwyd a bydd yn darparu 92 o dai cyngor a thai fforddiadwy 
ychwanegol. 
o Maer gwaith i uwchraddio tai syn eiddo ir Cyngor gryn dipyn o flaen y 
targed ar gyfer cwblhau ceginau, ystafelloedd ymolchi newydd a gosod synhwyrydd 
mwg. 
o 53% or ymholiadau tai wediu rheoli ar y pwynt cyswllt cyntaf, gan ganiat谩u 
i dimau arbenigol ganolbwyntio ar yr achosion cymhleth a brys. 
o Sir y Fflint syn Gyfeillgar i Ddementia: mae 14 darparwr cartref gofal a 7 
darparwr gweithgareddau yn defnyddior dudalen Facebook i hyrwyddo 
gweithgareddau sydd ar gael ar gyfer preswylwyr cartref gofal.  Mae gwaith wedi 
bod yn mynd rhagddo mewn ysgolion; daeth disgyblion ac athrawon mewn un ysgol 
uwchradd ac un ysgol gynradd yn gyfeillion dementia a mynychodd y disgyblion 
gaffis atgofion yn Sealand a Fflint i gymryd rhan mewn sesiwn ar y cyd or 
Stori Ddiddiwedd. 
o Derbyniwyd 23 o ymholiadau newydd mewn perthynas 芒r buddsoddiad newydd ar 
estyniad busnes presennol, a fydd yn arwain at greu swyddi.  Or 23 ymholiad 
busnes a dderbyniwyd, trawsnewidiodd 18 yn fuddsoddiad yn ystod chwarter 3 gan 
arwain at gyfradd trawsnewid o 78% a chyfanswm cyfunol 16/17 o 998 o swyddi 
newydd. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 
鈥淒rwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy鈥檔 
bwysig i鈥檔 cymuned an preswylwyr ac yn mesur pa mor dda yr ydym yn cyflawnir 
gwaith. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol 
i ddarparu ein blaenoriaethau syn cynnwys, cynorthwyo pobl gyda mynediad at 
dai fforddiadwy addas, addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth. 
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: 
Mae perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda y 
maer Cyngor yn cyflawnir pethau sydd bwysicaf in cymunedau.   Drwy fonitro 
Cynllun Gwellar Cyngor ar wahanol gamau yn ystod y flwyddyn, gallwn asesu a 
ydym am ddiwallur targedau a osodwyd i wella gwasanaethau ar gyfer preswylwyr 
a chanolbwyntio ein hegni ar flaenoriaethau lleol.