Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol
  		Published: 10/03/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu adroddiad drafft ar 
berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystyried a ywr adroddiad yn darparu 
cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. 
Maer adroddiad yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu 
gwasanaethau i bobl i sicrhau eu lles.   Eleni mae arddull yr adroddiad wedii 
ddiwygio yn dilyn y canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru, ac yn cadarnhau 
gwir gynnydd yn y gwasanaethau. 
Mae gan y Cyngor lawer iw ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella 
lles pobl yn y Sir, gan gynnwys:
1. Datblygu a phrofi modelau o gydweithrediad yn ein prosesau datblygu a 
chomisiynu gwasanaethau. 
2. Ymgorfforir model dilyniant o fewn Anableddau Dysgu. 
3. Parhau i gyflawni canlyniadau personol yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi 
trwy ganfod beth syn bwysig iddynt, 
4. Parhau i weithio gyda darparwyr iechyd a darparwyr annibynnol i atal 
derbyniadau diangen ir ysbyty a bod unigolion yn dychwelyd iw cartrefi cyn 
gynted 芒 phosibl. 
5. Ymgymryd 芒 gwaith arloesol mewn partneriaeth 芒n darparwyr gofal preswyl a 
Helen Sanderson Associates i ddarparu ein rhaglen A Place Called Home, 
Delivering What Matters.
6.  Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu canolfan ymyrraeth gynnar yn y 
Gwasanaethau Plant. 
7. Y Gwasanaethau Plant yn parhau i berfformion dda er gwaethaf cynnydd 
sylweddol mewn galw 
8. Gweithion agos gydag unigolion syn defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a 
staff i ystyried modelau darparu amgen. 
Maer gweithlu yn flaenoriaeth allweddol ac maer Cyngor yn cefnogi a datblygu 
staff i sicrhau eu bod yn gymwys ac yn wybodus i ddarparur arfer syn ofynnol 
yn 么l Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  Mae canolbwynt 
cadarn ar ansawdd ac ymarfer wedii ddatblygu ac mae strwythur rheoli newydd 
wedii gyflwyno yn y Gwasanaethau Plant.   Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi 
darparwyr annibynnol gyda recriwtio a chynaliadwyedd busnes.  
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol: 
Asesiad cyffredinol y Cyngor yw bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i 
gymell gwelliant yn y gwasanaeth, gan sicrhau fod gennym ystod effeithiol o 
wasanaethau o ansawdd da syn cefnogi a diogelu pobl ddiamddiffyn.   Gyda phobl 
wrth wraidd ein gwasanaeth rydym wedi ymrwymo i roir gofal gorau posibl i 
breswylwyr syn diwallu anghenion unrhyw un ar draws y sir sydd efallai angen 
defnyddior gwasanaethau.