Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth Gwasanaethau Cwsmer
  		Published: 10/03/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu Strategaeth Gwasanaeth 
Cwsmer newydd pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14 Mawrth.
Maer strategaeth hon wedii halinio gydar Strategaeth Ddigidol a gymeradwywyd 
yng nghyfarfod y Cabinet fis diwethaf ac yn ymdrin â sut y bydd y Cyngor yn 
darparu gwasanaethau iw gwsmeriaid mewn modd cyfoes ac effeithlon.  
Maer strategaeth wedii strwythuro o amgylch y tair ffrwd waith ganlynol: 
1. Wyneb yn wyneb - a ddarperir drwy Ganolfannau Cyswllt y Cyngor ar draws y 
Sir 
2. Dros y ffôn – cyfle i ddatblygu gwaith y ganolfan gyswllt a fydd yn gwneud 
defnydd effeithlon o adnoddau staff ac yn ceisio datrys ymholiadau cwsmeriaid 
yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. 
3. Digidol – gall cyflwyno gwasanaethau digidol arbed arian, gwella hygyrchedd 
gwasanaethau ar gyfer mwyafrif y preswylwyr a rhyddhau adnoddau i gefnogir 
cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
Maen rhaid i ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol ganolbwyntio ar 
symleiddior modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau, deall eu taith 
gydar Cyngor, rhoi rheolaeth i gwsmeriaid o ran y gwasanaethau y  maent yn eu 
defnyddio, gwrando ac ymateb i adborth.  Bydd gwasanaethau y gellir eu 
darparun ddigidol yn cael eu datblygu, er mwyn gallu canolbwyntior adnoddau 
drud ar y gwasanaethau na ellir eu darparun ddigidol i gefnogir cwsmeriaid 
mwyaf diamddiffyn. 
Maer Strategaeth Gwasanaeth Cwsmer arfaethedig yn ategu at y Polisi Gwasanaeth 
Cwsmer syn disgrifior hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl pan fyddant yn 
cysylltu âr Cyngor wyneb yn wyneb, dros y ffôn neun ddigidol.  Bydd 
gweithrediad y strategaeth hon yn cynnwys adolygiad parhaus or Polisi 
Gwasanaeth Cwsmer a gwneir newidiadau yn seiliedig ar anghenion y cwsmeriaid.