Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Hunanwasanaeth yn Llyfrgell yr Wyddgrug
  		Published: 10/03/2017
Fis yma agorwyd ciosg hunanwasanaeth yn Llyfrgell yr Wyddgrug.
Bydd y ciosg yn helpu i gyflymu鈥檙  broses syml o fenthyg neu ddychwelyd llyfrau 
- opsiwn sydd eisoes ar gael yn llyfrgelloedd Glannau Dyfrdwy a Threffynnon.
Bydd staff ar gael i ddangos i ddefnyddwyr y llyfrgell sut mae鈥檙 ciosg yn 
gweithio ac i wneud yn siwr bod modd iddynt ddefnyddio eu cardiau aelodaeth 
gyda鈥檙 system newydd.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris 
Bithell:
鈥淏ydd  y trefniant newydd o gymorth i gwsmeriaid gan y byddant yn gallu 
gweinyddu鈥檙 broses o fenthyg neu ddychwelyd llyfrau eu hunain, heb orfod aros 
am aelod o staff, cyn belled nad oes unrhyw gymhlethdodau.  Mae鈥檙 ciosg hunan 
wasanaeth yn printio derbynebau am eitemau sy鈥檔 cael eu benthyg neu eu 
dychwelyd Gall y ciosg hefyd ddarllen manylion pentwr o lyfrau ar y tro yn 
hytrach na gorfod sganio teitlau unigol, sydd yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd 
sy鈥檔 benthyg swp o lyfrau ar gyfer gwahanol aelodau. Fel gwasanaeth rydym yn 
sylweddoli na fydd ein holl gwsmeriaid yn dymuno manteisio ar y cyfleuster hwn, 
fodd bynnag rydym yn rhagweld y bydd yn rhyddhau amser staff ar gyfer 
gweithgareddau datblygu darllenwyr mwy rhagweithiol.鈥
Bydd staff yn parhau i roi gwasanaeth i鈥檙 rhai hynny y byddai鈥檔 well ganddynt 
beidio 芒 defnyddio鈥檙 ciosg.