Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad ar Ddiwygior Gyfundrefn Les yn mynd gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr wythnos nesaf
Published: 03/03/2017
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu ei rhaglen o ddiwygio cyfundrefnau
lles dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i geisio lleihau
effeithiau llawn y diwygiadau hyn ar ei drigolion mwyaf diamddiffyn.
Mae Credyd Cynhwysol wedi bod yn Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014. O fis Ebrill
2017 ymlaen, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Credyd Cynhwysol 鈥淕wasanaeth
Llawn. Mae鈥檙 newid hwn yn cael ei gyflwyno mewn tair o ganolfannau swyddi Sir
y Fflint yn gyntaf 鈥 Shotton, yr Wyddgrug ar Fflint. Mae Credyd Cynhwysol
鈥淕wasanaeth Llawn鈥 yn disodli鈥檙 chwe budd-daliad canlynol:
路 Budd-Dal Tai
路 Cymhorthdal Incwm
路 Lwfans Ceisio Gwaith
路 Lwfans Cymorth Cyflogaeth
路 Credyd Treth Plant
路 Credyd Treth Gwaith
Yn ogystal 芒 hynny, bydd angen i bawb, bron, hawlio a rheoli eu Credyd
Cynhwysol ar-lein o fis Ebrill 2017.
Yn ei gyfarfod nesaf ar 8 Mawrth, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a
Menter yn derbyn adroddiad sy鈥檔 disgrifior newidiadau allweddol ac
effeithiau鈥檙 rhain ar bobl leol.
Maer adroddiad yn nodi sut maer Cyngor yn ceisio helpu aelwydydd a fydd yn
cael eu heffeithio gan y newid a鈥檙 her sylweddol, yn enwedig y rhai mwyaf
diamddiffyn.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒aw鈥檙 diwygiadau ychwanegol hyn ar ben diwygiadau blaenorol, gan gynnwys
treth ystafelloedd gwely. Effeithiodd y dreth ar 1,149 o gartrefi yn Sir y
Fflint ac roeddent, ar gyfartaledd, 拢14 yr wythnos yn dlotach oi herwydd. Bydd
y cymal nesaf o newidiadau i Gredyd Cynhwysol yn golygu y bydd dros 2,000 o
aelwydydd yn Sir y Fflint bron i 拢40 yn dlotach pob wythnos pan fydd eu nawdd
yn dod i ben.
鈥淢ae tua chwarter or rhai sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y newidiadau yn
gartrefi sy鈥檔 gweithio. Ar ben hynny, mae 75% o鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu heffeithio
yn byw mewn llety rhent preifat ac mae teuluoedd 芒 phlant yn cyfrif am 60%.
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn bwriadu defnyddio ein canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu i
helpu鈥檙 trigolion a chynnig cyngor a chymorth iddyn nhw ar reoli eu hawliadau
ar-lein. A dweud hynny, bydd nifer sylweddol 芒 llai o incwm, a fydd yn arwain
at galedi posib a phenderfyniadau go anodd.