Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy
  		Published: 02/03/2017
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu 拢370,000 pellach i Cyngor Sir y Fflint ar 
gyfer dau brosiect adfywio yng Nglannau Dyfrdwy. 
Bydd yr arian, o鈥檙 rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei 
ddefnyddio ar Gam 2 Pen y Llan Court yng Nghei Connah a hefyd adeiladu ar y 
cynlluniau Tir y Cyhoedd y mae鈥檙 ardal wedi elwa ohonynt dros y tair blynedd 
ddiwethaf.
Bydd Cam 2 cynllun Pen y Llan Court yn elwa o 拢100,000 a bydd gwelliannau a 
drefnwyd yn cynnwys gwella diogelwch, cyfleusterau ac ymddangosiad cyffredinol.
Bydd 拢270,000 arall yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau Tir y Cyhoedd i wella 
cyfleusterau cludiant a Theithio Llesol i annog opsiynau teithio mwy cynaliadwy 
a gwella鈥檙 amgylchedd.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
 鈥淢ae croeso mawr i鈥檙 ddau gyhoeddiad yma, maent yn bosibl yn unig oherwydd y 
gwaith gwych maer Cyngor eisoes wedi ei wneud yn cyflwynor rhaglen Lleoedd 
Llewyrchus Llawn Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn 
ganolbwynt economaidd o bwys ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr 
ac maer rhaglen hon yn elfen bwysig o ran hybu ffyniant y rhanbarth.鈥