Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llywodraeth Cymru yn caniatáu atal y cynllun Hawl i Brynu
  		Published: 23/02/2017
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais Cyngor Sir y Fflint i atal y cynllun 
Hawl i Brynu.
Dros y chwarter canrif diwethaf mae nifer y tai cyngor sydd ar gael iw rhentu 
wedi lleihau oherwydd y cynllun hwn, ond mae nifer y bobl sydd angen tai cyngor 
wedi parhau i gynyddu. Rhwng 1996 a 2016 gwerthwyd 1,606 o eiddo.
Yn ystod 2016 fe ddechreuodd y Cyngor roi ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol 
(SHARP) ar waith, sy鈥檔 cynnwys adeiladu 500 o dai cyngor a fforddiadwy yn Sir y 
Fflint erbyn 2020. 
Drwy atal y cynllun Hawl i Brynu bydd Sir y Fflint yn cadw ei stoc bresennol o 
dai cyngor yn ogystal 芒 diogelu ei dai cyngor newydd er mwyn creu cymaint o 
gyfleoedd 芒 phosibl i bobl leol gael byw yn Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru 
wedi caniat谩u i鈥檙 Cyngor atal y cynllun am bum mlynedd. 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton:
鈥淩ydw i鈥檔 falch iawn bod y Prif Weinidog wedi cymeradwyo ein cais i atal y 
cynllun Hawl i Brynu yn Sir y Fflint. Mae鈥檙 polisi Hawl i Brynu wedi arwain at 
leihad yn nifer y tai cymdeithasol, ond mae atal y cynllun ynghyd 芒鈥檙 rhaglen i 
adeiladu tai cyngor newydd yn sicrhau y gellir darparu tai fforddiadwy o 
ansawdd yn Sir y Fflint ac yn adeiladu ar un o brif flaenoriaethaur Cyngor.
Dywedodd Clare Budden, Prif Swyddog, Cymuned a Menter:
鈥淢ae atal y cynllun Hawl i Brynu yn hanfodol er mwyn gwneud y gorau o鈥檙 
cyfleoedd tai i bob unigolyn a theulu sy鈥檔 byw yn Sir y Fflint, bydd hefyd yn 
atgyfnerthu ein cynlluniau i barhau i foderneiddio a buddsoddi mewn tai cyngor 
a gwasanaethau ar gyfer ein tenantiaid.鈥