Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhagor o gartrefi NEWYDD yn Saltney
  		Published: 22/02/2017
Yn ddiweddar, daeth cwmni rheoli eiddo Cyngor Sir y Fflint,  North East Wales 
(NEW) Homes, yn berchen ar bedwar ty newydd sbon arall er mwyn helpu cynyddu鈥檙 
nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael i鈥檞 rhentu yn y sir.
Mae鈥檙 pedwar cartref wedi鈥檜 lleoli ar ddatblygiad newydd Edwards Homes Garden 
Village yn Saltney.
Sefydlwyd NEW Homes (North East Wales Homes) gan y Cyngor er mwyn cynyddu鈥檙 
dewisiadau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Cafodd y cwmni ei gynllunio i 
ymateb i鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu trigolion sy鈥檔 ceisio dod o hyd i dai 
fforddiadwy. Mae鈥檔 cynnig gwasanaethau tai wedi鈥檜 teilwra a鈥檜 cynllunio i 
gynyddu niferoedd a chodi ansawdd tai fforddiadwy ar draws y sir.
Cafodd y tai eu trosglwyddo i NEW Homes fel rhan o rwymedigaethau y datblygwyr 
i ddarparu tai fforddiadwy ar ddatblygiadau preifat. Mae hyn yn sicrhau bod 
datblygiadau newydd yn ateb anghenion tai fforddiadwy ar gyfer pobl y gymuned 
leol.
Roedd y tenantiaid newydd wrth eu boddau i allu symud yr un diwrnod a 
drosglwyddwyd y tai i NEW Homes.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a 
Chadeirydd Bwrdd NEW Homes, a aeth i ymweld 芒 nifer o鈥檙 tenantiaid newydd i鈥檞 
croesawu nhw i鈥檞 cartrefi newydd:
鈥淢ae NEW Homes wedi cael ei sefydlu yn arbennig i ateb yr angen am dai 
fforddiadwy gan y cymunedau lleol, ac mae cynnwys y tai yma yng nghaniat芒d 
cynllunio y datblygwr yn ein helpu ni i gyflawni ein nod. Rwy鈥檔 falch o 
groesawu tenantiaid newydd i鈥檞 cartrefi newydd ac mae鈥檔 werth gweld teuluoedd 
ar ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.鈥
Ychwanegodd Neil Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards Homes: 
鈥淩oedd Edwards Homes yn falch iawn i gydweithio 芒 Chyngor Sir y Fflint i 
ddarparu pedwar ty newydd. Mae鈥檙 tai yn ddull cyflym a hawdd o ddarparu tai 
fforddiadwy y mae鈥檙 gymuned leol wir eu hangen.鈥
Dywedodd y Cynghorydd lleol, Richard Lloyd:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod datblygiad Edward Homes yn Saltney wedi darparu pedwar ty 
newydd i Gyngor Sir y Fflint sydd bellach yn gartrefi i bedwar teulu mewn pryd 
i鈥檙 Nadolig.鈥
鈥淢ae鈥檙 syniad o ddatblygwyr yn rhoi cyflenwad o dai i鈥檙 cyngor yn lle tai 
fforddiadwy yn un wych sy鈥檔 helpu i adlenwi niferoedd tai鈥檙 cyngor ac rwy鈥檔 
gobeithio bod y cynllun yn parhau.鈥
Neil Edwards (i鈥檙 chwith) gyda鈥檙 Cynghorydd Attridge yn rhoi鈥檙 goriadau i 
denantiaid hapus, ynghyd 芒鈥檙 Cynghorydd Richard Lloyd (i鈥檙 dde)