Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Archwiliwch droedfryniau Gogledd Cymru
  		Published: 15/02/2017
Mae Llwybr Cyswllt Cymru newydd ag arwyddion ar ei hyd ac yn barod i鈥檞 
archwilio! 
 
Yn ymestyn dros ddeunaw milltir ac yn mynd trwy bedair sir, mae Llwybr Cyswllt 
Cymru bellach yn cysylltu 芒 Llwybr Arfordir Cymru trwy ochr ddeheuol Pont Droed 
Saltney Ferry gan fynd trwy Saltney, Bretton, Dodleston, Burton Meadows, 
Honkley, Shordley Hall, Caer Estyn, Caergwrle, Cymau, Ffrith, Four Crosses ac 
yn olaf ymuno 芒 llwybr Clawdd Offa ar hyd Llwybr y Gweundir yng Nghoed 
Llandegla.
 
Beth am gadw鈥檙 adduned Blwyddyn Newydd yna a chwilio am eich esgidiau cerdded a 
threulio diwrnod hamddenol yn cerdded o Saltney i Gaergwrle?  Wedyn gallwch 
ymweld 芒 Chastell Caergwrle, cyn cael tamaid o fwyd ac yna dal y tr锚n neu fws 
yn 么l i Gaer.  
 
Neu fe alwch gerdded o Gaergwrle i Glawdd Offa yn Llandegla, gan fwynhau鈥檙 
golygfeydd godidog or rhostiroedd uchel.  Yna cerdded ar hyd llwybr Clawdd 
Offa i bentref Llandegla lle medrwch ddal y bws yn 么l i Gaergwrle.
  
Os ydych awydd cerdded y llwybr dros gwpl o ddiwrnodau, gallwch aros yn Hope 
Mountain Bed and Breakfast yng Nghymau, neu wersylla go wahanol yn Bryn Dwr 
Pods, Llandegla, mae鈥檙 ddau ddim ond tafliad carreg o Lwybr Cyswllt Cymru.
 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy 
Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 
 鈥淢ae Llwybr Cyswllt Cymru yn gysylltiad hynod bwysig rhwng dau lwybr pwysig 
presennol yng Ngogledd Cymru.  Bydd yn denu cerddwyr o bob cwr, a fydd yn 
mwynhau gogoniant Gogledd Cymru, tra hefyd yn rhoi hwb i dwristiaeth leol.
 
 鈥淥s ydych yn chwilio am dipyn mwy o her wrth gerdded o amgylch Cymru, dyma鈥檙 
llwybr i chi.  Mae agor y llwybr hwn yn dod 芒 Sir y Fflint a rhan olaf arfordir 
Cymru yn brofiad 鈥淐ymru gyfan鈥.
 
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Stephen Lewis: 
 
 鈥淩wyf wir wedi mwynhau cyflawnir prosiect hwn, gan ddefnyddio 拢30,000 o鈥檙 
cymorth grant Cronfa Cymunedau鈥檙 Arfordir, ac mae wedi bod yn bleser cydweithio 
gydar Swyddogion Hawliau Tramwy o Gynghorau Sir y Fflint, Caer, Wrecsam a Sir 
Ddinbych. Mae hefyd wedi bod yn wych gweithio gyda gwirfoddolwyr, sydd yn eu 
tro wedi bod yn amhrisiadwy.  Mae鈥檙 gwaith a wnaed wedi uwchraddio鈥檙 hawliau 
tramwy presennol, gan wneud y llwybr hwn yn daith sydd wir i鈥檞 mwynhau.鈥
 
Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth gydag 
incwm o asedau morol Yst芒d Y Goron. Caiff ei ddarparu gan Gronfa鈥檙 Loteri Fawr 
ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, 
yr Alban a Chymru.
Cadwch lygad am logo unigryw Llwybr Cyswllt Cymru!
 
 
Mae mapiau o鈥檙 llwybr ar gael oddi wrth:
https://fccmapping.flintshire.gov.uk/connect/analyst/?mapcfg=waleslinkpath
 
Mae amseroedd bysus a threnau ar gael oddi wrth:
www.arrivabus.co.uk/wales  www.arrivatrainswales.co.uk