Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun ymsuddiant – Boot Hill, Treffynnon
  		Published: 28/02/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer gwaith gwella ar yr A5026 yn Boot 
Hill, Treffynnon, lle mae’r ffordd wedi dirywio oherwydd ymsuddo lleol. 
Mae hwn yn gynllun adeiladu sylweddol a fydd angen buddsoddiad o tua £120,000, 
ac mae disgwyl ir gwaith gael ei wneud yn ystod haf 2017 er mwyn lleihaur 
effaith ar rai syn teithio ir gwaith ac i ysgolion lleol. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy 
Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Bydd preswylwyr lleol a’r rhai sy’n defnyddior ffordd yn falch o glywed bod 
buddsoddiad y Cyngor yn y rhwydwaith ffyrdd yn cael ei ddefnyddio i wellar 
cysylltiad hollbwysig yma rhwng ffordd yr arfordir a Threffynnon.