天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn croesawu adroddiad cyllid

Published: 13/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar ei waith cynllunio ariannol cadarn. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar y cwestiwn canlynol: A yw trefniadau cynllunio arbedion ariannol y cyngor yn cefnogi gwytnwch ariannol? Ar ateb i hynny yw bod gan y Cyngor fframwaith cynllunio ariannol cadarn ac maen parhau i gryfhau ei waith cynllunio ariannol i gefnogi gwell gwytnwch ariannol yn y dyfodol. Mae hyn yn ganlyniad cadarnhaol sy鈥檔 derbyn croeso, ac mae鈥檔 dangos pa mor galed maer Cyngor wedi gweithio o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol, y setliadau gostyngol i awdurdodau lleol ar ffaith bod Sir y Fflint yn gyngor sy鈥檔 cael llai o gyllid y pen o gymharu 芒 llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Yn 2016-17, cafodd Sir y Fflint 拢185m gan Lywodraeth Cymru, sy鈥檔 cynrychioli 拢1,196 fesul person yn y sir, swm is na chyfartaledd Cymru a gostyngiad termau real o 10.1% y pen ers 2013-14. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 鈥淢ae ein fframwaith cadarn ar gyfer cynllunio ariannol, gwneud arbedion a bod yn ddarbodus gydan harian - sydd wedi bod yn graig i ni drwy flynyddoedd ariannol anodd - wedi cael ei gydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru. Maen galonogol i wybod y cawn ein cydnabod gan ein harchwiliwr allanol cenedlaethol.鈥� Byddain anarferol ir Archwilydd Cyffredinol beidio ag awgrymu maes iw wella. Yn yr achos hwn, dim ond un maes sydd wedi cael ei nodi yn yr adroddiad - parhau i gadarnhau ein cynlluniau i wneud arbedion mewn da bryd cyn y flwyddyn ariannol mewn cwestiwn.