Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynnig Gofal Plant i Gymru
Published: 10/02/2017
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad ar y Cynnig Gofal Plant i
Gymru, a gofynnir iddynt ei gymeradwyo, yn dilyn cais llwyddiannus Sir y Fflint
i fod yn un o ddim ond chwe chyngor i gymryd rhan yn y cam gweithredu cynnar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu ei gynnig i rieni sy鈥檔 gweithio
sydd 芒 phlant 3 a 4 oed, hyd at uchafswm o 30 awr yr wythnos o addysg a gofal
plant cynnar am ddim am 48 wythnos y flwyddyn.
Caiff y cynnig ei beilota o fis Medi 2017 yn Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys M么n,
Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wyf wrth fy modd bod Sir y Fflint wedi鈥檌 dewis i beilota鈥檙 cynllun hwn a fydd
o fudd i鈥檔 rhieni sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ac yn eu helpu i gydbwyso magu eu plant
gyda鈥檜 bywydau gweithio. Bydd gallu cynnig 30 awr o ofal plant a ariennir gan
Lywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr i鈥檙 teuluoedd sy鈥檔 gymwys. Mae
hyn hefyd yn cynnwys gofal plant yn ystod y gwyliau a fydd yn helpu gyda
chostau uchel gofal yn ystod y gwyliau.鈥
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淏ydd mynediad i ofal plant hyblyg am ddim o fudd sylweddol i deuluoedd sy鈥檔
gweithio ar draws Cymru ac rwy鈥檔 falch y bydd Sir y Fflint yn arwain y ffordd o
ran darparu鈥檙 nod allweddol hwn gan Lywodraeth Cymru.鈥
Yr argymhelliad yw peilota鈥檙 cynllun ar draws Sir y Fflint, hyd at uchafswm o
441 o blant ar gyfer blwyddyn ysgol 2017-18.