Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiad blynyddol y Gwasanaethau Addysg
Published: 10/02/2017
Bydd aelodau Cabinet y Cyngor yn clywed bod Sir y Fflint yn parhau i wella ym
mhob cyfnod allweddol, ddydd Mawrth 14 Chwefror.
Mae鈥檙 Cyngor yn cynnal hunanwerthusiad o鈥檌 Wasanaethau Addysg bob blwyddyn, i
helpu i nodi meysydd gwelliant, gan gynnwys y rhai a amlygwyd ar gyfer
gwelliant gan arolygwyr. Pwrpas adroddiad y Cabinet yw derbyn cyfraniadau
Aelodau i鈥檙 hunanwerthusiad drafft diweddaraf.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淢ae canran y dysgwyr sy鈥檔 gadael ysgol heb gymhwyster a nifer y bobl ifanc
ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn parhau鈥檔 eithriadol o
isel yn Sir y Fflint. Drwy fod yn 1.3% yn 2015, roedd cyfran NEET Blwyddyn 11
ar ei isaf yng Nghymru, a鈥檙 ffigur isaf erioed i Sir y Fflint am yr ail
flwyddyn yn olynol.鈥
Bydd aelodau Cabinet hefyd yn clywed bod gwelliannau wedi bod yn arbennig o
gadarnhaol mewn categoreiddio ysgolion cynradd (o dan y model cenedlaethol) ac
mewn deilliannau dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod
Allweddol 3.
Mae hyder y cyhoedd mewn addysg leol yn uchel. Rhoddodd pobl Sir y Fflint yr
ail sg么r uchaf ar gyfer cyflwr addysg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2015.
Mae鈥檙 asesiad hefyd yn dangos bod cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu
ychwanegol a chynhwysiant cymdeithasol yn dda. Mae trefniadau diogelu鈥檔 gadarn
ac yn cael eu monitron effeithiol.
Mae presenoldeb mewn ysgolion yn parhau i fod yn uchel, gyda lefelau absenoldeb
heb awdurdod yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn parhau鈥檔 sylweddol is na鈥檙
cyfartaledd cenedlaethol, a gyda鈥檙 ysgolion uwchradd yn cyflawnir lefel
genedlaethol isaf o 0.4%.
Maer rhaglen moderneiddio ysgolion hefyd yn gwneud cynnydd da.
Mae parhau i wella deilliannau dysgwyr, yn enwedig yn y sector uwchradd ac i
grwpiau diamddiffyn, ynghyd 芒 gwella arweinyddiaeth a gwytnwch mewn ysgolion
sy鈥檔 peri pryder, yn parhau i fod yn flaenoriaethau i鈥檙 Cyngor.
Mae鈥檙 hunanwerthusiad yn dangos bod y Cyngor yn parhau i berfformio鈥檔 dda o鈥檌
gymharu 芒 chynghorau eraill yng Nghymru.
Mae鈥檙 hunanwerthusiad hefyd yn dangos bod y Cyngor wedi bod yn gweithio鈥檔
gadarnhaol i wneud cynnydd mewn meysydd yr ystyriwyd bod angen gwelliant gan
Estyn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
鈥淢ae hunanwerthuso鈥檔 bwysig iawn i gydnabod cryfderau niferus gwasanaethau
addysg Sir y Fflint a meysydd gwelliant.鈥