Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Agoriad Swyddogol Llys Custom House; Cei Connah
  		Published: 10/02/2017
Cafodd y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru ers dros 20 
mlynedd eu hagor yn swyddogol gan y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y 
Fflint, ddydd Gwener, 10 Chwefror.
Symudodd Tenantiaid i mewn i ddeuddeg o eiddo newydd y cyngor yn Llys Custom 
House yng Nghei Connah ychydig cyn y Nadolig. Wedi鈥檌 adeiladu ar safle hen 
Ysgol Custom House Lane, y datblygiad yw鈥檙 safle cyntaf i gael ei gwblhau fel 
rhan o Raglen Tai Strategol ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint (SHARP), a fydd yn 
darparu 200 o gartrefi cyngor a 300 o gartrefi fforddiadwy dros y pum mlynedd 
nesaf.
Mae鈥檙 Cyngor wedi gweithio鈥檔 agos gyda鈥檌 bartner strategol, Wates Residential, 
i sicrhau fod y tai wedi eu hadeiladu i safon uchel gyda nodweddion syn fodern 
ac yn effeithlon o ran ynni er mwyn cadw鈥檙 costau rhedeg ar lefel y gellir ei 
rheoli. 
Wedi鈥檌 lywio gan Ddyluniad Safonol Tai Sir y Fflint, y sylfaen ar gyfer yr holl 
dai newydd a ddarperir drwy SHARP, syn cynnwys gofynion ar gyfer cynllun 
mewnol o ansawdd da a chyson a pharcio digonol, mae dyluniad Llys Custom House 
hefyd yn dynwared ac yn ymgorffori nodweddion yr hen ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae cwblhaur tai cyngor newydd cyntaf yn Llys Custom House yn nodi dechrau 
cyfnod cyffrous ar gyfer y Cyngor wrth iddo wireddu ein huchelgais hir ymarhous 
i ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd newydd a mawr eu hangen ar draws y Sir.
鈥淩oeddwn in teimlon falch iawn i gwrdd 芒 rhai or tenantiaid newydd yn 
ddiweddar wrth iddynt weld eu cartref newydd am y tro cyntaf. Roeddwn yn falch 
o glywed y tenantiaid yn siarad am 鈥渂ennod newydd yn eu bywydau鈥 a pha mor 
gyffrous oedden nhw am symud i Lys Custom House.鈥
Mae datblygiad newydd Llys Custom House wedi dod 芒 manteision ir gymuned leol, 
gan gynnwys buddsoddiad o 拢220,000 i ddarparu 524 wythnos o hyfforddiant ar 
gyfer dros 130 o bobl leol.
Mae ymdrech Wates Residential i helpur economi leol hefyd wedi golygu bod y 
datblygwr yn gwario dros 拢1m gyda busnesau lleol drwy gydol datblygiad Llys 
Custom House. 
Dywedodd Joanne Jameson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential:
鈥淢ae agoriad swyddogol Llys Custom House yn gyfle perffaith i ganolbwyntio ar 
yr hyn sydd wedi ei gyflawni wrth gyflwynor datblygiad newydd ffantastig hwn. 
Fel y cyntaf i gael ei gwblhau o dan fenter SHARP Cyngor Sir y Fflint, mae鈥檙 
cartrefi hyn yn cynrychioli鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni o ran ansawdd pan fydd 
t卯m yn gweithio gydai gilydd tuag at nod cyffredin.
鈥淣id yn unig y bydd y cartrefi newydd yn Llys Custom House yn gwneud 
gwahaniaeth i fywydau trigolion, ond maent hefyd wedi dod 芒 llawer o gyfleoedd 
i鈥檞 rhoi yn 么l ir gymuned leol. Ein gobaith yw y bydd y manteision a gr毛ir yn 
gwneud gwahaniaeth i bobl leol am genedlaethau i ddod.鈥