Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwelliannau ir A5104, Penyffordd 
  		Published: 06/02/2017
Disgwylir y bydd gwaith yn dechrau ar 13 Chwefror i wellar A5104 o Benyffordd 
i Frychdyn.  
Bydd y gwaith yn cynnwys nifer o fesurau diogelwch ffordd a fydd yn cynnwys 
disodli goleuadau stryd, uwchraddio arwyddion traffig a gwelliannau i gyffyrdd 
ar hyd y ffordd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
Maer Cyngor wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 
gwelliannau diogelwch yn y safle hwn lle y bu sawl damwain ddifrifol dros y 
blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn falch ein bod yn gallu gwella diogelwch y 
ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd.