Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Newyddion priffyrdd 
  		Published: 06/02/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer gwaith arwynebu ffyrdd i wella 
rhwydwaith priffyrdd gwledig a gynhelir yn ystod Ebrill/Mai. 
Bydd y Cyngor yn buddsoddi 拢400k ar wahanol safleoedd ar draws y rhwydwaith ac 
unwaith y bydd y safleoedd ar gyfer triniaeth yn cael eu cadarnhau, caiff y 
wybodaeth hon ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor.   
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant ar 
Dirpwy Arweinydd, Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn falch o allu buddsoddi mewn isadeiledd priffyrdd fel hyn a chynnal y 
rhwydwaith ffyrdd i safon y mae trigolion Sir y Fflint wedi arfer iddi.
A chwblhaodd y Cyngor waith yn ddiweddar i wella cyffordd yr A5026, Lloc.
Roedd y gwaith yn cynnwys ailfodelu鈥檙 gyffordd a gosod ynys traffig, gan 
gynnwys arwyddion gwell a gosod goleuadau stryd LED.  Bydd y cynllun hwn yn 
gwella gwelededd a newidiadau i osodiad y ffordd yn caniatau i gerbydau symud 
yn ddiogel gyda鈥檙 bwriad o leihau gwrthdrawiadau ar y safle hwn sy鈥檔 cael ei 
gydnabod am achosi damweiniau.
Meddai鈥檙 Cyng. Attridge:
Rwy鈥檔 falch bod y Cyngor wedi llwyddo i gael arian gan Lywodraeth Cymru ar 
gyfer y cynllun gwella diogelwch ffyrdd pwysig hwn.鈥