Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn Chwifio鈥檙 Faner 
  		Published: 03/02/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith 
eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol 
(LGBT) yn ystod mis Chwefror.  
Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a 
chyflawniadau pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau 
pobl hoyw a hawliau sifil. 
Mae hefyd yn amser i gofio鈥檙 gwahaniaethu y mae llawer wedi ei wynebu ar daith 
sydd wedi ei gwneud tuag at gydraddoldeb. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol a 
Chefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae chwifio鈥檙 faner enfys yn bwysig ir Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol 
mis hanes LGBT yn anfon neges glir bod Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i 
gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor ac yn y gymuned ehangach鈥.
Y thema eleni yw dinasyddiaeth; Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac 
Economaidd; a鈥檙 gyfraith gan fod 2017 yn nodi 50 mlynedd ers dad-droseddu 
gwrywgydiaeth yn rhannol yng Nghymru a Lloegr. 
I gael rhagor o wybodaeth ewch i鈥檞 gwefan yn http://lgbthistorymonth.org.uk/