Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Published: 01/02/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Diwrnod Defnyddio鈥檙 Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
ar 7 Chwefror er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg
ddigidol, yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc.
Mae鈥檙 diwrnod yn cael ei gynnal ar ail ddiwrnod yr ail wythnos yn yr ail fis
bob blwyddyn; ac mae miloedd o bobl yn uno i godi ymwybyddiaeth o broblemau
diogelwch ar-lein a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y
byd. Y thema eleni yw Byddwch yn rhan o鈥檙 newid: Unwch ar gyfer gwell
rhyngrwyd鈥.
Dywedodd y Cynghr. Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu
Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 rhyngrwyd wedi dod yn rhan o鈥檔 bywydau pob dydd, ond mae鈥檔 bwysig cofio
bod yna bobl sy鈥檔 achub ar bob cyfle posibl i beryglu鈥檆h diogelwch ar-lein. Mae
Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl
o鈥檙 risgiau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 byd ar-lein. Mae鈥檔 bwysig ein bod ni鈥檔
diogelu ein hunain a鈥檔 plant a鈥檔 pobl ifanc yn erbyn peryglon posibl, i sicrhau
ein bod ni i gyd yn mwynhau pori drwy鈥檙 we ac yn osgoi seiberdroseddau.鈥
Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch chi aros yn ddiogel ar-lein:
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chofiadwy
- Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar declynnau newydd
- Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
- Siopwch yn ddiogel ar-lein 鈥 cofiwch wirio a yw safleoedd manwerthu ar-lein
yn ddiogel
- Lawrlwythwch feddalwedd a phatshys rhaglenni pan ofynnir i chi wneud hynny
- Peidiwch byth 芒 chwrdd 芒 鈥榝frind鈥 ar-lein
- Peidiwch 芒 datgelu gwybodaeth bersonol
- Os ydych chi鈥檔 cael ei bwlio ar-lein 鈥 dywedwch wrth rywun cyn i bethau fynd
yn waeth
- Peidiwch ag uwchlwytho na rhannu lluniau pryfoclyd 鈥搖nwaith y byddant ar-lein
byddant allan o鈥檆h dwylo
Yn ddiweddar adroddodd Gyngor Sir y Fflint sut y mae un o ysgolion cynradd y
sir wedi ei hamlygu fel enghraifft ddisglair o鈥檙 oes digidol.
Yn 2015 cafodd Ysgol Gynradd Parc Cornist yn y Fflint ei dewis fel yn o
ysgolion 鈥渁rloeswyr digidol鈥 Llywodraeth Cymru. Ers hynny mae wedi gwella
cymhwysedd digidol disgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a鈥檙 gymuned
ehangach wrth gynnwys technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol.
Mae鈥檙 ysgol wedi mynd 芒 thechnoleg ddigidol i lefel newydd. Un o nodau
allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a鈥檙
gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn dull
cyfrifol a diogel. Mae disgyblion yn codi ymwybyddiaeth o e-Ddiogelwch鈥 a
dysgu digidol ymhlith cymuned yr ysgol, yn ogystal ag ysgolion eraill ar draws
y sir. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn banc lleol i helpu
cwsmeriaid ddysgu am fod yn ddiogel ar-lein.
Cafodd y gwaith hwn ei gydnabod fel enghraifft o鈥檙 arfer orau gan Brif
Arolygydd Estyn yn ei Adroddiad Blynyddol.
Dewch i ganfod mwy am y Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd
rhan! www.saferinternetday.org.uk #SID2017.