Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Beyond the Boundaries 
  		Published: 09/02/2017
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi cynorthwyo preswylydd lleol i 
ddatblygu menter gymdeithasol a fydd yn darparu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl 
ifanc gydag anabledd. 
Mae Beyond the Boundaries , Cwmni Buddiannau Cymunedol, wedii greu gan Jill 
Smith sydd, dros yr wyth mlynedd diwethaf, wedi datblygu a rheoli Salon Gwallt 
a Harddwch Beyond the Fringe ym Mynydd Isa. 
Gan ddefnyddio ei harbenigedd busnes a sgiliau a ddysgodd wrth hyfforddi i fod 
yn athrawes, penderfynodd Jill ddatblygu menter gymdeithasol er budd pobl ifanc 
ag anableddau ar rhai ag anghenion cymhleth.  Mae Beyond the Boundaries wedii 
ddatblygu i greu cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer oedolion ifanc gydag 
anawsterau dysgu yn Sir y Fflint. 
Ar 么l cynnal cynllun peilot llwyddiannus, lansiodd Jill Beyond the Boundaries 
yn ddiweddar yn Llys Eleanor yn Shotton, gyda Lewis Roberts, nai Jill ai 
hysbrydoliaeth ar gyfer datblygu Beyond the Boundaries, a Joanne Liversage, 
cleient, yn torrir rhuban.  
Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 
Mae Beyond the Boundaries yn enghraifft wych or math o gydwybod cymdeithasol 
sydd yn Sir y Fflint.  Gan ategu at fusnes llwyddiannus, mae Jill wedi datblygu 
Beyond the Boundaries i fod yn hunangynhaliol ac i symud oddi wrth gyllid grant 
o fewn 12 mis ar 么l agor. 
Dywedodd Jill: 
Rwyn frwdfrydig ynglyn 芒 darparu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc syn byw 
gydag anableddau dros 25 oed ac roeddwn eisiau helpu.  Bydd yr oedolion ifanc 
yn derbyn cefnogaeth i fod yn aelod o d卯m, gyda rolau a chyfrifoldebau penodol, 
i weithredu salon gwallt a harddwch masnachol. Bydd eu cyfraniad yn cael ei 
gydnabod bob tro gan roi ymdeimlad o falchder a bod yn rhan o d卯m iddynt. 
Byddant yn derbyn cyflog a fydd yn rhoi gwobr ariannol iddynt ond hefyd yn 
darparu ymdeimlad o werth a chyflawniad.
Mae Jill wedi gwneud cais am gyllid i Grantiau ICF y Trydydd Sector syn ceisio 
cefnogi pobl gydag anableddau dysgu (o bob oedran) a phlant gydag anghenion 
cymhleth.  Mae hefyd wedi derbyn cymorth gan Gymunedau yn  Gyntaf Sir y Fflint 
a th卯m Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint. 
Aeth Jill yn ei blaen: 
Maer gefnogaeth yr wyf wedii derbyn gan Gymunedau yn Gyntaf ar Cyngor wedi 
bod yn werthfawr iawn.  Maent wedi cynorthwyo gyda chynllunio busnes, cynllunio 
ariannol, cofrestrur cwmni a chefnogaeth foesol!  Nawr fod gennyf gynllun 
busnes wedii brision llawn, rwyn hyderus y gall y salon fod yn gynaliadwyn 
ariannol yn y 12 mis nesaf.