Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Enghraifft ddisglair o鈥檙 oes ddigidol
Published: 26/01/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn bod Ysgol Gynradd Parc Cornist wedii
dewis fel enghraifft ddisglair o sut y gall technoleg ddigidol wella bywyd
ysgol, yn dilyn Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn a gyhoeddwyd yn
ddiweddar.
Cafodd yr ysgol yn Fflint ei dewis fel un o ysgolion 鈥渁rloeswyr digidol鈥�
Llywodraeth Cymru yn 2015 ac ers hynny, mae wedi gwella cymhwysedd digidol
disgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a鈥檙 gymuned ehangach wrth gynnwys
technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol.
Dywedodd y Pennaeth, Nicola Thomas:
鈥淓rs cael ein dewis fel un o鈥檙 ysgolion arloeswyr digidol, rydym wir wedi mynd
ir afael 芒r her i ymgysylltun llwyr 芒r oes ddigidol. I mi, mae鈥檔 wych
gweld y plant yn cyfranogi ac yn frwdfrydig dros yr hyn maent yn ei wneud, i
gael meddwl agored i chwilio am ffyrdd eraill o ateb cwestiynau, i gofnodi beth
maent wedii ddysgu ai ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol i ymchwilio iw dysgu.
Mae鈥檙 ystafell ddosbarth bellach yn fyd-eang 鈥� nid ywn dod o lyfr neu geg yr
athron unig.
Mae鈥檙 ysgol wedi mynd 芒 thechnoleg ddigidol i lefel newydd. Un o nodau
allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a鈥檙
gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn dull
cyfrifol a diogel. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn codi ymwybyddiaeth o
eDdiogelwch鈥� a dysgu digidol ymhlith cymuned eu hysgol, yn ogystal ag ysgolion
eraill ar draws y Sir. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn
banc lleol i helpu cwsmeriaid ddysgu am fod yn ddiogel ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor
Sir y Fflint:
鈥淢ae clywed bod un o ysgolion ein Sir wedi鈥檌 dewis fel enghraifft o arfer da ar
gyfer gweddill Cymru鈥檔 fy ngwneud yn falch iawn. Maer staff a鈥檙 disgyblion ym
Mharc Cornist wir wedi mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 her hon i ddatblygu technoleg a dysgu
digidol 鈥� rydw i hyd yn oed wedi clywed un aelod o staff yn disgrifio鈥檙 offer
fel 鈥渃as pensiliau digidol鈥�, gyda鈥檙 dechnoleg bob amser yn yr ystafell
ddosbarth i helpu gyda llythrennedd, rhifedd a meysydd eraill o鈥檙 cwricwlwm.鈥�
Mae modd gweld astudiaeth achos lawn o Barc Cornist ar-lein ar
https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-orau/technoleg-ddigidol-ym-mywyd-ysgol-gynrad
d?_ga=1.136083633.1854803201.1483023630