Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mae鈥檔 bryd i ni symud y llyfrau
  		Published: 27/01/2017
Ar y cyd 芒 Gwasanaeth y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau bydd 
Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn arddangos gwaith nifer o artistiaid yn ystod mis 
Chwefror. 
Byddan nhw鈥檔 clirio rhai or llyfrau i wneud lle i weithiau celf 3D, gyda鈥檙 nod 
o ddod 芒 chelf yn nes at y bobl.
Pwrpas y gyfres unigryw hon o arddangosfeydd yw pwysleisio nad oes yn rhaid i 
gelf fod mewn lle penodol a bod celf ymhob man ac yma i ni ei mwynhau. 
Bydd gwaith pedwar artist yn cael ei arddangos mewn pedair llyfrgell yn y sir, 
sef y Fflint, Bwcle, Glannau Dyfrdwy a鈥檙 Wyddgrug. 
Mae Katie Scarlett Howard yn gerflunydd sy鈥檔 gwneud ffigurau ceramig, yn 
seiliedig yn bennaf ar y ffurf fenywaidd. Mae hi鈥檔 defnyddio tiwbiau 
silindrog wedi eu gwneud o glai 鈥榗rank鈥. Bydd ei gwaith i鈥檞 weld yn Llyfrgell y 
Fflint o 30 Ionawr tan 20 Chwefror. Mi fydd yna hefyd weithdy brynhawn ddydd 
Iau, 2 Chwefror. 
Bydd arddangosfa 鈥淔loral Deconstruction鈥 Ticky Lowe i鈥檞 gweld yn Llyfrgell 
Glannau Dyfrdwy 1-20 Chwefror, a bydd gweithdy brynhawn ddydd Mercher, 15 
Chwefror. 
Bydd gwaith Mandy Coates i鈥檞 weld yn Llyfrgell Bwcle 1-20 Chwefror, a bydd 
gweithdy brynhawn ddydd Mawrth, 14 Chwefror. Mae Mandy wedi bod yn gwneud 
basgedi ers chwarter canrif ac mae ei dyluniadau yn greadigol ac yn gyfoes.
Mae Cefyn Burgess yn artist tecstilau a bydd ei waith ar ddangos yn Llyfrgell 
yr Wyddgrug rhwng 31 Ionawr a 20 Chwefror. Mi fydd ganddo hefyd weithdy 
brynhawn ddydd Llun, 6 Chwefror. 
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal o 2pm tan 6.30pm.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
鈥淩ydw i鈥檔 falch bod t卯m Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y 
Fflint a鈥檙 Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau i feddwl am ffyrdd newydd o 
gefnogi unigolion medrus lleol 鈥 gan arddangos eu gwaith mewn mannau annisgwyl. 
Mae celf yn rhywbeth ar gyfer pawb a bydd y gweithdai yn debycach i sesiynau 
鈥渁rtist preswyl, lle bydd modd i bobl wylio鈥檙 artistiaid wrth eu gwaith a rhoi 
cynnig ar greu eu darn nhw o gelfyddyd.鈥 
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01352 704408.