Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Cludiant Cymunedol
  		Published: 25/01/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Chyngor Cymunedol Higher Kinnerton i 
ddarparu gwasanaeth cludiant cymunedol cynaliadwy ar gyfer yr ardal. Bydd y 
gwasanaeth newydd yn cael ei lansio ar 1 Chwefror 2017 fel rhan o Brosiect 
Teithio Cymunedol Sir y Fflint. 
Nod y digwyddiad yw hyrwyddo鈥檙 cynllun peilot ar gyfer teithio cymunedol yn 
Higher Kinnerton a diolch i鈥檙 gymuned am gefnogi鈥檙 prosiect hyd yma.
Mae croeso i bawb fynychu鈥檙 digwyddiad ond gwahoddir darpar ddefnyddwyr 
gwasanaeth yn benodol er mwyn iddyn nhw ganfod mwy am y gwasanaethau Tacsibws a 
Rhannu Tacsi newydd.
Bydd y gwasanaeth Tacsibws yn dechrau ar 6 Chwefror 2017 a bydd ganddo lwybr ac 
amserlen benodol i alluogi trigolion Higher Kinnerton i gyrraedd gwasanaethau 
allweddol ym Mrychdyn.
Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth 鈥渇fonio a theithio鈥 ar gyfer pobl 
sy鈥檔 methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn ne ddwyrain Sir 
y Fflint. Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynychu apwyntiadau 
iechyd/meddygol neu gysylltu 芒鈥檙 gwasanaeth Tacsibws yn Higher Kinnerton. 
Mae paratoadau ar gyfer cynlluniau tebyg mewn wyth ardal arall yn y sir ac mae 
ardaloedd Llaneurgain, Cei Connah, Penymynydd, Penyffordd, Bwcle, Treuddyn, 
Llanfynydd a Threffynnon yn gweithio gyda鈥檙 Cyngor i ddatblygu cynlluniau 
cludiant cymunedol, a bydd y llwybrau a鈥檙 amserlenni yn cael eu cadarnhau yn 
ystod yr wythnosau nesaf. 
Diolchodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Bernie Attridge, y gymuned leol 
am gefnogi鈥檙 fenter ac ychwanegodd: 
鈥淒yma gyfle gwych i鈥檙 gymuned gymryd rhan a chefnogi datblygiad cynlluniau 
cludiant cymunedol y Cyngor. Bydd cynlluniau teithio cymunedol, fel y cynllun 
peilot newydd yma yn Higher Kinnerton, yn chwarae rhan fwyfwy pwysig wrth 
ddarparu cludiant i gymunedau lleol. Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi 
cludiant sy鈥檔 gymdeithasol angenrheidiol, ond y gwir amdani yw nad ydym ni mewn 
sefyllfa i gynnig yr un lefelau o gymorthdaliadau bws a llenwi鈥檙 bylchau a 
gafwyd ar 么l i rai gwasanaethau bws masnachol ddod i ben.鈥
Er bod y sefyllfa ariannol sydd ohoni yn golygu y bydd lefel y cymorthdaliadau 
yn lleihau dros y tair blynedd nesaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu 
peidio 芒 chael gwared ar y cymorthdaliadau cludiant yn gyfan gwbl. Yn hytrach, 
bydd yn buddsoddi i amnewid y gwasanaethau presennol a rhoi trefniadau 
鈥渃ludiant cymunedol鈥 cynaliadwy a lleol ar waith. 
Ychwanegodd y Cyng. Attridge:
鈥淢ae arnom ni eisiau gweithio mewn partneriaeth 芒 chymunedau i ddatblygu 
atebion arloesol a chynaliadwy i gau rhywfaint o鈥檙 bylchau. Mae mynediad i 
wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn 
cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i 
gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i 
ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth lle bynnag y bo modd i 
sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i鈥檙 dyfodol. 
Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau peilot, ewch i:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin
tshire.aspx