Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Teithiwch drwy鈥檙 amser yr hanner tymor yma!
  		Published: 08/02/2017
Mae Archifdy Sir y Fflint yn gwahodd teithwyr amser ifanc i gofrestru ar gyfer 
digwyddiad cyffrous yr hanner tymor yma. 
Bydd digwyddiad Teithwyr Amser Bychain yn cael ei gynnal ar 22 Chwefror am 
10.30am yn yr Archifdy ym Mhenarl芒g  
Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda鈥檜 rhieni, gofalwyr neu 
warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, stor茂au, crefftau a 
cherddoriaeth.  
Bydd y sesiwn yn para awr a, gorau oll, bydd yn rhad ac am ddim.
I archebu lle neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at 
archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.