Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Polisïau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes 2017/18
  		Published: 13/01/2017
Bob blwyddyn mae鈥檔 rhaid i bob Cyngor gymeradwyo rhai polis茂au penodol sy鈥檔 
ymwneud 芒 gweinyddu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes.  Mae hyn yn rhan o鈥檙 
broses o osod Treth y Cyngor, pan ystyrir o dan ba amgylchiadau y bydd y Cyngor 
yn dyfarnu gostyngiadau trethi lleol ac/neu鈥檔 caniat谩u rhyddhad ardrethi er 
mwyn sicrhau bod biliau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes yn cael eu cyfrifo鈥檔 
gywir.
Ar gyfer y flwyddyn 2017-2018, yr argymhelliad i Gabinet y Cyngor yw y bydd y 
Cyngor, o Ebrill 2017, yn cyflwyno premiwm o 50% ar Dreth y Cyngor ar gyfer ar 
ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 12 mis.  Nod hyn yw annog 
perchnogion i ddechrau gwneud defnydd llawn o鈥檜 heiddo unwaith eto er mwyn mynd 
i鈥檙 afael 芒鈥檙 galw am dai yn lleol, cefnogi鈥檙 cynnydd mewn tai fforddiadwy sydd 
ar gael i鈥檞 prynu neu i鈥檞 gosod a gwella golwg cymunedau lleol.
Gall preswylwyr fod yn dawel eu meddwl y cymerwyd camau i leddfu effeithiau鈥檙 
premiwm ar y rhai hynny sydd o bosibl yn ei chael yn anodd gwerthu/llenwi eu 
heiddo, er enghraifft efallai y bydd gan berchnogion sydd wedi marchnata eu 
heiddo i鈥檞 werthu neu ei osod hawl i beidio talu鈥檙 premiwm am 12 mis.
Gofynnir i鈥檙 Cabinet hefyd nodi gweithrediad y Polisi Rhyddhad Ardrethi Busnes 
yn 么l Disgresiwn (DBRRP) a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2016. O dan y polisi 
hwn ni fydd sefydliadau sydd eisoes yn manteisio ar Ryddhad Ardollau Gorfodol 
yn derbyn taliadau atodol yn 么l disgresiwn.  Bydd yr holl ddyfarndaliadau yn 么l 
disgresiwn eraill i sefydliadau gwirfoddol ac 鈥榥id er elw鈥  yn gostwng i 
ddisgownt o ddim mwy na 80%. 
Er mwyn sicrhau cynaladwyedd hirdymor y sectorau Elusennol a Gwirfoddol ac fel 
鈥榬hwyd ddiogelwch鈥 ychwanegol, mae fframwaith hefyd yn cael ei gyflwyno ar 
gyfer ymdrin ag unrhyw achosion o galedi a allent godi.
Argymhellir hefyd y dylai鈥檙 Cyngor barhau 芒鈥檙 polisi presennol o ystyried 
gostyngiadau Treth y Cyngor yn 么l disgresiwn dim ond mewn achosion o argyfyngau 
sifil neu drychinebau naturiol a pheidio  芒 rhoi gostyngiadau 鈥榓todol鈥 yn 么l 
disgresiwn i fusnesau sydd eisoes yn derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton,  Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae鈥檔 bwysig bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod 
cymaint 芒 phosibl o鈥檙 bron i 900 o eiddo preifat gwag yn ein Sir yn cael eu 
llenwi. Gall y Cyngor helpu perchnogion eiddo o鈥檙 fath mewn sawl ffordd, er 
enghraifft drwy fenthyciadau a chynlluniau grant, a buaswn yn eu hannog i 
fanteisio ar y cynlluniau hyn. 
Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd r么l pob elusen, grwp gwirfoddol a 
sefydliad nid er elw, ac mae鈥檙 DBRRP newydd yn taro鈥檙 cydbwysedd cywir drwy 
barhau i gynnig lefelau hael o ryddhad ardollau ar yr un pryd 芒 helpu鈥檙 Cyngor 
i bontio鈥檙 bylchau y mae鈥檙 toriadau ariannol wedi鈥檜 creu.  Buaswn hefyd yn 
annog pob grwp lleol cymwys i fanteisio ar gynllun rhyddhad ardollau busnesau 
bach Llywodraeth Cymru.鈥
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr argymhellion ar gyfer gweinyddu Treth y 
Cyngor ac Ardrethi Busnes 2017/18 yn ei gyfarfod ar 17 Mawrth.