Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cambrian Aquatics
  		Published: 12/01/2017
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad a gyflwynwyd gan Cambrian 
Aquatics, y fenter gymdeithasol a gymerodd y gwaith o gynnal pwll nofio Cei 
Connah ym mis Mai 2016, pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae鈥檙 pwll nofio wedi gweithredu yn llwyddiannus a rhaglenni nofio newydd a 
chynlluniau eraill wedi鈥檜 cyflwyno, a鈥檙 defnydd wedi bod yn gadarnhaol. 
Cafodd Cambrian Aquatics gymhorthdal cychwynnol gan Gyngor Sir y Fflint yn 
ogystal 芒 Chyngor Tref Cei Connah.  Mae鈥檙 rhain yn amodol ar adolygiad 
blynyddol yn dibynnu ar berfformiad y busnes.
Mae鈥檙 adroddiad yn nodi鈥檙 cynnydd cadarnhaol ac yn cynnig grant pellach o 
拢65,000 ar gyfer yr ail flwyddyn o weithredu, yn amodol ar nifer o amodau.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Gwasanaethau Hamdden: 
鈥淒yma enghraifft dda o drosglwyddiad ased cymunedol llwyddiannus arall, ac 
mae鈥檙 Cyngor wedi cael ymateb cadarnhaol i鈥檙 cynllun CAT o bob rhan o鈥檙 sir. 
Rydym yn parhau i chwilio am atebion tymor hir i gynnal ein gwasanaethau ac 
asedau lleol a darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio a mentrau cymdeithasol.鈥