天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfrif Refeniw Tai

Published: 13/01/2017

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y gyllideb ddrafft ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 17 Ionawr. Y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) sy鈥檔 ariannu swyddogaeth landlordiaid y Cyngor ar gyfer 7,189 o gartrefi. Mae hyn yn cynnwys trwsio a chynnal a chadw tai, gwella鈥檙 stoc a gwneud gwelliannau amgylcheddol, rheolaeth cymdogaethau gan gynnwys datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am stadau, casglu incwm ac ymgysylltiad cwsmeriaid. Mae鈥檙 adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch y cynnydd cadarnhaol y mae鈥檙 Cyngor wedi鈥檌 wneud o ran perfformiad ariannol, sicrhau bod targedau Safonau Ansawdd Tai Cymru yn cael eu diwallu, anrhydeddu鈥檙 ymrwymiadau yn y Ddogfen Dewisiadau* a pharhau 芒 rhaglen uchelgeisiol y Cyngor o adeiladau tai cyngor newydd a thai fforddiadwy, sydd ar y trywydd cywir ac yn symud yn ei flaen yn gynt na鈥檙 disgwyl. Mae鈥檙 gyllideb ddrafft yn argymell cynnydd mewn rhent o 2.5% (+ hyd at neu - 拢2) gyda rhenti targed ar gyfer tenantiaethau newydd. Bydd rhenti garejis yn codi 拢1 yr wythnos. Meddai Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Aaron Shotton: 鈥淩ydw i wrth fy modd y bydd cyllideb arfaethedig y CRT ar gyfer 2017/18 yn ein galluogi i barhau 芒鈥檔 buddsoddiad mewn gwella cartrefi tenantiaid; rhaglen fuddsoddi gwerth 拢20m ynghyd ag ymrwymiad o bron 拢8m i barhau i adeiladu tai cyngor newydd.鈥 Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, Helen Brown: 鈥淢ae鈥檙 CRT yn dangos sut y byddwn yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, yn cadw at addewidion y ddogfen Dewisiadau ac yn adeiladu tai cyngor newydd. Rydym ar y trywydd cywir i wella ein stoc tai fel sy鈥檔 ofynnol erbyn 2020 ac rydym yn adeiladu tai cyngor newydd. Rydym yn gweithio gyda鈥檔 gilydd fel t卯m cryf ac rwy鈥檔 hynod o falch o鈥檔 llwyddiannau.鈥 * Yn 2012, cynhaliodd y cyngor bleidlais ymysg ei denantiaid ynghylch yr opsiwn i 鈥榙rosglwyddo stoc鈥. Roedd y broses hon yn cynnwys gwneud ymrwymiadau i denantiaid ynghylch ansawdd gwasanaeth a pherfformiad, a ddylai tenantiaid ddewis aros gyda鈥檙 cyngor neu newid i landlord arall. Defnyddiodd 71% o鈥檙 tenantiaid eu pleidlais gydag 88% yn dewis parhau gyda Sir y Fflint yn landlord iddynt.