Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyllideb Refeniw Cronfar Cyngor
  		Published: 12/01/2017
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried camau terfynol sefydlu cyllideb 
refeniw 2017/18 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 17 Ionawr.
Drwy gydol y broses gyllidebu, mae鈥檙 Cyngor wedi ceisio diogelu gwasanaethau 
鈥榬heng flaen鈥, cyfleusterau cymunedol a chyllid ar gyfer ysgolion a Gofal 
Cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:  
鈥淢ae鈥檔 bleser gennym gyhoeddi, o ganlyniad i gynllunio ariannol arloesol ac 
effeithiol, na fydd unrhyw fygythiadau pellach i wasanaethau鈥檙 Cyngor yn 
2017/18. Mae hyn er gwaethaf gorfod bodloni effaith y pwysau cynyddol o鈥檙 galw 
cynyddol ar wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol, a chyfyngiadau ar 
wariant sector cyhoeddus ledled y DU.鈥
Er bod 鈥榖wlch鈥 cyllid o 拢1.9m yn parhau i fod i鈥檞 ganfod, mae鈥檙 Cyngor yn 
benderfynol yn ei nod o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig ein 
huchelgais i gynyddu cyllid i ysgolion cymaint 芒 拢1.2m y flwyddyn nesaf.  Ond 
mae dewisiadau cyfyngedig ar gael i ni i gyflawni hyn, ac eithrio drwy 
drethiant lleol, defnyddio ein cronfeydd wrth gefn dros dro a chymryd risgiau 
ar reoli pwysau costau fel cyflogau a chwyddiant.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton: 鈥淏yddwn yn parhau i bwysleisio bod angen 
diwygio鈥檙 fformwla cyllido ar gyfer llywodraeth leol. Ni all Sir y Fflint 
barhau fel cyngor 芒 chyllid isel, gan dderbyn 拢17.5m yn llai y flwyddyn na鈥檙 
grant cyfartalog ar gyfer cynghorau Cymru, yn seiliedig ar faint poblogaeth 
cymharol.鈥