Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweithgaredd Chwarae yn Sir y Fflint
  		Published: 04/01/2017
Maer Cyngor wedi gwneud ymrwymiad clir i gynnal gweithgaredd chwarae.  Yn y 
Cabinet fis diwethaf, adroddwyd y byddai bron i 拢900,000 yn cael ei fuddsoddi 
dros dair blynedd i ddisodli offer chwarae, uwchraddio mannau chwarae a disodli 
arwyneb chwarae鈥檙 meysydd chwaraeon synthetig.
Yn ogystal 芒 hynny, bydd y Cyngor yn parhau 芒r cyllid refeniw cyfatebol o 
拢123,000 ar gyfer ardaloedd chwarae er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn 
cael eu cynnal yn gywir. Maer cyllid hwn yn cael ei gyfateb gan Gynghorau Tref 
a Chymuned i roi buddsoddiad o tua 拢250,000 mewn ardaloedd chwarae lleol.
Yn 2016, cytunodd y Cyngor i ddarparu, am flwyddyn yn unig, cyllid i barhau 芒 
lefel y ddarpariaeth cynllun chwarae a ddarperir yn y blynyddoedd blaenorol yn 
dilyn tynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru.  O ganlyniad, roedd cynlluniau chwarae 
eleni yn cael eu hariannu鈥檔 rhannol gan y Cyngor Sir gyda thua 拢80,000 ac yn 
rhannol gan Gynghorau Tref a Chymuned. 
Maer Cyngor yn parhau i weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i ddod o hyd 
ir ateb gorau i sicrhau parhad gweithgarwch y cynllun chwarae yn y dyfodol, 
gan wneud y defnydd gorau or adnoddau sydd ar gael yn yr amgylchedd ariannol 
heriol hwn.  Safbwynt y Cyngor yw amddiffyn y ddarpariaeth o gynlluniau chwarae 
- mae llawer ohonynt yn cael eu colli mewn rhannau eraill o Gymru drwy 
effeithiau toriadau a orfodir yn y gyllideb - oherwydd mae galw mawr amdanynt a 
thystiolaeth glir o werth chwarae ar gyfer datblygiad pobl ifanc .
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
 鈥淵m mis Ionawr, bydd y Cabinet yn ystyried dyrannu swm cyllid untro o 拢40,000 
i barhau 芒 lefel o gymorth trosiannol i gynlluniau chwarae yn 2017/18. Rydym yn 
cydnabod gwerth y cynlluniau hyn i gymunedau lleol a鈥檙 gwerth sydd ganddynt 
wrth ysbrydoli plant i chwarae a bod yn greadigol. Yn gyffredinol yn 2017/18 
maer Cyngor yn ceisio cefnogi meysydd chwarae a chynlluniau chwarae drwy 
ddarparu buddsoddiad ychwanegol o oddeutu 拢1.2 miliwn.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Hamdden:
 鈥淥 ystyried gofyniad yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae cenedlaethol a heriau 
darparu鈥檙 mathau hyn o wasanaethau yn yr hinsawdd bresennol, cytunwyd i 
ailsefydlu Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint i gydlynu gwaith ar draws y 
Sir.   Cynhaliwyd digwyddiad i roi hwb ymlaen i鈥檙 broses hon ym mis Tachwedd, a 
hwylusir gan Chwarae Cymru a鈥檙 Doctor Stuart Lester ac estynnwyd gwahoddiad i 
holl aelodaur gymuned a swyddogion. Y camau nesaf fydd nodi Cadeirydd ac 
Is-gadeirydd newydd ar gyfer y Fforwm.  Mae鈥檙 holl waith caled hwn yn dangos 
bod Cyngor Sir y Fflint wir wedi ymrwymo i gynnal gweithgaredd chwarae yn y Sir 
a bydd yn gweithio gyda phartneriaid a Chynghorau Tref a Chymuned i ddarparur 
gwasanaeth gorau posibl in trigolion.鈥