Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd Sir y Fflint ar flaen y gad yng Nghymru 
  		Published: 04/01/2017
Mae ffordd arloesol o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgell wedi cael 
cefnogaeth fawr gan y gweithlu, yn dilyn pleidlais. 
Pleidleisiodd 92.5% o weithwyr y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd, a 
rhoesant gefnogaeth ysgubol o 90% ir cynigion i sefydlu Cymdeithas Mantais 
Gymunedol i ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd o 1 Gorffennaf 2017. 
Daeth hyn yn dilyn penderfyniad y Cyngor i gytuno i sefydlur corff newydd i 
reolir gwasanaethau o fis Gorffennaf 2017. Mae hyn yn torri tir newydd i Gymru 
ac yn un o lond llaw o sefydliadau i gynnal gwasanaethau fel y rhain yn y DU 
gyfan. 
Maer cynllun busnes yn dangos y gellir gwneud dros 拢500,000 o arbedion yn y 
flwyddyn gyntaf i weithrediad y gwasanaeth, tra mae Cyngor Sir y Fflint yn 
gwneud buddsoddiad cyfalaf o bron i 拢1 miliwn i wella adeiladau hamdden a 
llyfrgelloedd, mannau chwarae, caeau artiffisial yn y sir.   
Nod cyffredinol y model yw darparu arbedion o 10% flwyddyn ar 么l blwyddyn tran 
cynnal a gwella lefelau gwasanaeth presennol a diogelu swyddi. Bydd gweithwyr 
yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y sefydliad.
Bydd y sefydliad newydd ar Cyngor yn gweithion agored ac yn dryloyw, gyda 
gwerthoedd cydweithredol, a bydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn drwy fwrdd 
partneriaeth.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淏ydd y sefydliad hwn yn un or ychydig sefydliadau dan arweiniad gweithwyr 
sy鈥檔 cynnal gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig, ac mae 
lefel y gefnogaeth a ddangoswyd gan weithwyr yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn 
unigryw. Bydd Cymdeithas Mantais Gymunedol yn gallu dangos gwerth rhoi 
gweithwyr wrth galon sefydliad a helpu i lunio modelau o gyflenwi gwasanaethau 
cyhoeddus ar gyfer y dyfodol syn dangos sut y gall gwasanaethau sydd mewn 
perygl gael eu diogelu tran cyflawni gofynion ariannol a gwasanaeth a chadw 
atebolrwydd i鈥檙 cyhoedd ar gweithlu.鈥
Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr newydd y sefydliad a arweinir gan 
weithwyr:
鈥淢ae pawb wedi gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf i gyflawnir 
canlyniad hanesyddol hwn, ac rwyn hynod o falch i gael fy mhenodi i arwain y 
sefydliad newydd.  Rydym yn credu y bydd ein cydweithwyr yn ymateb ir her.  
Does neb mewn sefyllfa well na nhw i allu adnabod gwelliannau ac arloesedd o 
ran darparu gwasanaethau er budd ein cwsmeriaid.  Byddwn yn gweithio gydan 
gilydd ac yn canolbwyntio ar ein busnes craidd an gweledigaeth sef Mwy o 
bobl, Mwy o Feddyliau a Chyrff Egn茂ol, yn Fwy Aml.鈥  Mae鈥檙 dyfodol yn edrych yn 
ddisglair a chyffrous ar gyfer hamdden a llyfrgelloedd yn Sir y Fflint.鈥