Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy
  		Published: 21/12/2016
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu 拢100,000 pellach i Cyngor Sir y Fflint ar 
gyfer dau brosiect adfywio yng Nglannau Dyfrdwy. 
Bydd yr arian, or rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei 
ddefnyddio i ymestyn y prosiect T卯m Gwyrdd tan 31 Mawrth 2017, a hefyd er mwyn 
helpu i baratoi cais arian y Loteri ar gyfer y prosiect Gofal Plant Pepperpot.
Mae Groundwork wedi cyflwyno鈥檙 prosiect T卯m Gwyrdd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint 
mewn partneriaeth 芒 Chymunedau yn Gyntaf.  Bydd 拢35,000 yn cefnogi seithfed 
rownd o hyfforddeiaethau.  Hyd yma, mae pob hyfforddeiaeth wedi cefnogi 20 o 
bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) ar raglen 
waith a hyfforddiant 12 wythnos a gynlluniwyd i gynyddu eu cyfleoedd o sicrhau 
cyflogaeth neu addysg yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
 鈥淢aer rhaglen hon wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn, gydar rhan 
fwyaf o fynychwyr yn cael cymwysterau ymarferol a hefyd cael hwb enfawr mewn 
hyder wrth gael profiad o strwythur a disgyblaeth gwaith.  Maer bobl ifanc 
wedi gweithio gyda swyddogion Gwasanaethau Stryd a cheidwaid y Cyngor i fynd 
ir afael 芒 phroblemau amgylcheddol. Mae hyn wedi rhoi iddynt ddealltwriaeth 
o鈥檙 heriau o reoli eu hamgylchedd lleol - ac mae hwn yn werthfawrogiad maent yn 
mynd gyda nhw a鈥檌 drosglwyddo ir gymuned.
Mae 拢65,000 pellach wedi ei gymeradwyo ar gyfer prosiect yr hen Pepperpot Inn 
fel canolfan posib ar gyfer yr ymagwedd greadigol hon at ofal plant yn ardal 
Glannau Dyfrdwy, lle mae asesiad wedi nodi bod prinder darpariaeth gofal plant 
yn yr ardal.  Maer adeilad yn eiddo ir Cyngor ac wedi sefyll yn wag am nifer 
o flynyddoedd ac, oherwydd ei gyflwr, wedi methu 芒 sicrhau tenant masnachol. 
Maer adeilad wedi ei leoli ger Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac felly mae 
mewn lleoliad amlwg iawn.
Bydd y cam hwn or prosiect yn edrych ar y dyluniad, costio a chaniat芒d sydd ei 
angen i wneud cais am arian o raglenni mawr fel y Loteri.  Os bydd yn 
llwyddiannus, bydd y prosiect yn datblygu busnes newydd mewn lleoliad amlwg yng 
Nglannau Dyfrdwy i wasanaethu pobl leol trwy ddarparu ymagwedd arloesol tuag at 
ofal plant syn cyfateb i anghenion yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淢ae croeso mawr i鈥檙 ddau gyhoeddiad yma, mae maent yn bosibl yn unig oherwydd 
y gwaith gwych maer Cyngor eisoes wedi ei wneud yn cyflwynor rhaglen Lleoedd 
Llewyrchus Llawn Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn 
ganolbwynt economaidd o bwys ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr 
ac maer rhaglen hon yn elfen bwysig o ran hybu ffyniant yr ardal.