Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwneud defnydd da o hen goed Nadolig
  		Published: 21/12/2016
Ailgylchwch eich hen goeden Nadolig eto eleni gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y 
Fflint, a chyfrannu at y gwaith parhaus o adfer cynefin twyni tywod pwysig.
Maer Ceidwaid yn gofyn am goed Nadolig go iawn dros bedair troedfedd o daldra, 
yn un darn a heb addurniadau ar 么l cyfnod y Nadolig. 
Gall trigolion fynd 芒u coed i Barc Gwepra yng Nghei Connah, lle bydd ardal yn 
cael ei dynodi yn y prif faes parcio neur ardal maes parcio ger canolfan 
weithgareddau Pentref Peryglon, Heol yr Orsaf, Talacre rhwng dydd Mercher 4 a 
dydd Iau 12 Ionawr, 2016.
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Partneriaeth Talacre: 
鈥淩oedd ymdrechion y llynedd yn wych, buom yn gweithio gyda myfyrwyr lleol a 
gwnaed llawer iawn o waith. Eleni, byddwn yn gwneud y cyfan eto gyda grwp 
newydd o fyfyrwyr ac yn ychwanegu at y gwaith sydd eisoes yn bodoli.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: 
鈥淢ae hon yn ffordd dda iawn o ailgylchu coed Nadolig dros ben.  Bydd defnyddio 
eich hen goed yn y modd hwn yn helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol ac yn 
gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd. Rydw in annog pawb i gefnogir cynllun 
eto fel y maent wedi gwneud mor dda yn y gorffennol.
鈥淒ros y 18 mlynedd diwethaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ai 
bartneriaid wedi sefydlogi鈥檙 twyni trwy dywod dal gwynt a gosod ffensys i 
leihau difrod i鈥檙 cyn dwyni sensitif. Daeth cynlluniau adfer traethau gan 
beirianwyr Cyngor Sir y Fflint 芒 thywod wedi鈥檌 garthu i鈥檙 traeth i adeiladu鈥檙 
cyn dwyni fel amddiffynfeydd m么r.鈥
Bydd ceidwaid, gwirfoddolwyr a grwpiau o fyfyrwyr yn gosod yr holl goed a 
gasglwyd y flwyddyn nesaf.