Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd
  		Published: 31/12/2016
Mae pennaeth ysgol uwchradd Sir y Fflint, sydd wedi bod yn gweithio yn 
nhrefgordd Bwcle ers 2006, wedi cael OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn 
Newydd.
Mae Mrs Rosemary Jones, pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, wedi cael ei chydnabod 
am ei chyfraniad i addysg. Mae wedi arwain t卯m yr ysgol o athrawon a staff 
cefnogi i ddatblygu Cymuned Ddysgu Eithriadol, lle mae cyflawniad a lles yn 
flaenoriaethau. Barnwyd safonau yn yr ysgol i fod yn Ardderchog gan Estyn yn 
2015 ac yn 2016 enillodd yr ysgol Wobr Ansawdd Cymru.
Mae gan Rosemary ugain mlynedd o brofiad arwain ysgol. Dechreuodd ei gyrfa 
addysgu yn y 1970au yn Llundain. Ar 么l symud i Ddyffryn Clwyd yn 1984, mae wedi 
gweithio yn Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd ac yn ystod y deng mlynedd 
diwethaf fel pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed.
Meddai Rosemary Jones:
 鈥淐efais fy synnu ac roeddwn yn falch o fod wedi cael fy nghyflwyno ar gyfer 
anrhydedd hwn, syn adlewyrchu cyfraniad t卯m Ysgol Uwchradd Elfed wrth ddarparu 
cyfleoedd dysgu rhagorol ar gyfer pobl ifanc Bwcle a thu hwnt. Maen fraint i 
weithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol addysgol ar 
draws Cymru ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at gyfrannu at ddatblygiad pellach addysg yn 
y wlad.