Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sefydlu Modelau Darparu Amgen ar gyfer Hamdden; Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd; Arlwyo a Glanhau; a Gofal Dydd Gofal Cymdeithasol a Chyfleoedd Gwaith
Published: 14/12/2016
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi ystyried adroddiad sy鈥檔 argymell sefydlu
tri Dull Darparu Amgen ar gyfer gwasanaethau.
Y cyntaf yw Cymdeithas Budd Cymunedol i ddarparu gwasanaethau hamdden a
llyfrgelloedd o 1 Gorffennaf 2017, yr ail yw Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy鈥檔
gallu masnachu am gontractau allanol i ddarparu Gwasanaethau arlwyo a glanhau o
1 Ebrill 2017, ac yn olaf, cynnig i gontractio gyda sefydliad gyda gwerthoedd
cymdeithasol i ddarparu gofal dydd a chyfleoedd gwaith ar gyfer pobl gydag
anableddau dysgu mewn gofal cymdeithasol o 1 Ebrill 2017.
Yn ogystal 芒 diogelu gwasanaethau a chadw swyddi, mae鈥檙 gwaith ar y cynlluniau
gweithredu gan bob un o鈥檙 gwasanaethau hyn wedi nodi buddiannau gwirioneddol a
gwelliannau i ddarpariaeth gwasanaeth.
Yn yr adran Hamdden a Llyfrgelloedd, mae鈥檙 cynigion yn dangos, ynghyd 芒 gwneud
arbediad o dros 拢400,000 yn y flwyddyn gyntaf heb effaith sylweddol ar
ddarpariaeth gwasanaeth, gall y gwasanaeth a鈥檙 Cyngor fuddsoddi oddeutu 拢1m i
wella canolfannau hamdden ac adeiladau llyfrgelloedd. Mae鈥檙 cynnig hwn, sef y
bydd staff yn berchnogion y cwmni newydd, yn destun pleidlais staff ar 15
Rhagfyr.
Mae Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ar gyfer Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau yn
dangos, ynghyd 芒 gwneud arbediad o dros 拢100,000 yn y flwyddyn gyntaf, gellir
gweithredu contractau glanhau newydd ac mae cynnydd yn y nifer sy鈥檔 derbyn
prydau ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae cael rhyddid i gontractio
gyda sefydliadau allanol i ddarparu gwasanaethau arlwyo a glanhau yn cynyddu
rhagolygon incwm a chefnogi datblygiad y busnes yn y dyfodol.
Maer contract arfaethedig newydd ar gyfer sefydliad gyda gwerthoedd
cymdeithasol i ddarparu gofal dydd anableddau dysgu a chyfleoedd gwaith yn nodi
arbedion posibl ym mlwyddyn gyntaf y ddarpariaeth. Mae hefyd yn nodi
gwasanaeth gwell ar gyfer defnyddwyr, a fyddai鈥檔 derbyn cefnogaeth, i ystod
ehangach o gyfleoedd gwaith a darpariaeth gofal dydd mewn dull cydlynol. Mae鈥檙
adroddiad yn amlinellu bod prosiect cyfalaf yn awr yn ddichonadwy ar gyfer
disodli canolfan ofal dydd Glanrafon a fyddai鈥檔 gwneud gwelliant sylweddol i
ansawdd y ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gofal dydd. Bydd yr
argymhelliad terfynol ar gyfer y contract hwn yn cael ei gyflwyno i鈥檙 Cabinet
ym mis Ionawr.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淏ydd sefydlu鈥檙 sefydliadau hyn yn garreg filltir sylweddol. Mae鈥檙 gwaith
manwl a wnaed gan y staff yn y gwasanaethau hyn yn dangos fod y cynigion yn
sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol ir cyhoedd, ond y
gellir cyflawni gwelliannau sylweddol o ran ansawdd y gwasanaeth ar gyfer
defnyddwyr ac ir adeiladau lle y darperir y gwasanaethau hyn. Rwy鈥檔
croesawu鈥檙 posibilrwydd o fuddsoddiad pellach yn y ddarpariaeth hamdden ac
ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu gofal dydd anableddau dysgu.鈥