Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch yr heddlu yn erbyn yfed a gyrru a chymryd cyffuriau a gyrru
Published: 08/12/2016
Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch eleni yn
erbyn Yfed a Gyrru.
Mae ymgyrch Cymru-gyfan sy鈥檔 targedu鈥檙 rhai sy鈥檔 gyrru dan ddylanwad alcohol a
chyffuriau dros y Nadolig yn cael ei lansio heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 1af) a
bydd heddluoedd ar draws y wlad yn defnyddio gwybodaeth leol a thactegau
cudd-wybodaeth er mwyn dal y rhai sy鈥檔 gyrru dan ddylanwad dros gyfnod y
Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae鈥檙 cyngor yn llwyr gefnogi ymgyrch Heddlu鈥檙 Gogledd a鈥檙 opsiwn mwyaf
diogel yw gadael eich car adref os ydych chin bwriadu cael diod yn ystod tymor
yr Wyl. Os oes rhaid i chi yrru, y cyngor gorau yw i beidio yfed o gwbl.鈥
Yn ystod ymgyrch Nadolig 2015, cynhaliwyd 8,894 o brofion anadl yng Ngogledd
Cymru gyda 82 o鈥檙 rheini yn bositif, wedi methu neu鈥檔 gwrthod. Cafodd 35 person
eu harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Meddai鈥檙 Arolygydd Alun Davies, o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru:
鈥淯nwaith eto mi fydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar atal gyrru dan ddylanwad
alcohol a chyffuriau ac arbed y rhai sy鈥檔 fodlon mentro鈥檜 bywydau eu hunain a
phobl eraill.
鈥淏ydd swyddogion Uned Plismona Ffyrdd, Timau Cymdogaeth Ddiogelach a鈥檙 Heddlu
Gwirfoddol ar waith ac fe ddylai unrhyw un sy鈥檔 meddwl gyrru dan ddylanwad
wybod y byddwn ni allan yno鈥檔 disgwyl amdanyn nhw.
鈥淢ae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud y ffyrdd yn ddiogelach i bawb ac
fe fydden nhw鈥檔 parhau i dargedu鈥檙 rhai sy鈥檔 peryglu eu bywydau. Peidiwch 芒
gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau 鈥 gall hyd yn oed y mymryn lleiaf o
gyffuriau neu alcohol effeithio ar eich gallu i yrru鈥檔 ddiogel. Peidiwch 芒
gadael i鈥檆h teulu a鈥檆h ffrindiau dalu鈥檙 pris.鈥
Yn ychwanegol at yr ymgyrchoedd sy鈥檔 cael eu targedu, bydd swyddogion hefyd yn
defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn atgoffa pobl nad ydy hi byth yn
iawn i gymryd y risg. Gall defnyddwyr rhwydweithiau cymdeithasol ddilyn yr
hashnod #5angheuol.
Hyd yn hyn yn 2016 (Ionawr 1 鈥 Tachwedd 18), mae Heddlu Gogledd Cymru wedi
arestio 762 o bobl am yrru dan ddylanwad alcohol a 328 am yrru dan ddylanwad
cyffuriau.
Fe ychwanegodd Arolygydd Alun Davies: 鈥淢ae swyddogion yn wyliadwrus drwy gydol
y flwyddyn ond yn arbennig felly ar yr adeg yma 鈥 fe wnawn nhw eich gweld chi,
fe wnawn nhw eich dal chi a bydd yn rhaid i chi wynebu鈥檙 canlyniadau. Mae angen
i yrwyr fod yn ymwybodol, waeth pryd y caen nhw鈥檜 dal, p鈥檜n ai wrth fynd i鈥檙
gwaith neu fynd 芒鈥檙 plant i鈥檙 ysgol, y bydden nhw鈥檔 wynebu鈥檙 un cosbau 芒鈥檙 rhai
hynny sydd wedi penderfynu yfed yn drwm yn y dafarn a gyrru鈥檙 un noson.鈥
Os ydych yn amau bod rhywun yn gyrru ac na ddylen nhw wneud hynny, riportiwch
hynny ar unwaith i鈥檆h heddlu lleol drwy ffonio 101 (neu 999 os oes bygythiad
brys) neu gallwch ffonio Taclo鈥檙 Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.